Cynnen

(Ailgyfeiriad o Cynnen waed)

Dadl neu frwydr hir ei hoes rhwng pleidiau — yn aml, yn ôl "euogrwydd trwy gysylltiad", grwpiau o bobl, yn enwedig teuluoedd neu glaniau – yw cynnen. Yn aml, mae cynnen yn dechrau wrth i un blaid yn ystyried (yn gywir neu'n anghywir) ei bod wedi cael ei hymosod arni, sarhau, neu gam wedi ei wneud arni gan blaid arall. Gall gylchred hir o ddial datblygu, yn aml un sy'n ymhlygu aelodau teuluol ac/neu gymdeithion y pleidiau gwreiddiol. Gall cynhennau para am genedlaethau.

Cynnen gyda chylchred o drais dialgar yw cynnen waed neu fendeta (o'r Eidaleg vendetta, sydd o'r Lladin vindicta, sef "dial"). Bydd perthnasau rhywun a gafodd ei ladd (neu ei amharchu, neu a wneir cam ag ef), yn ceisio dial trwy ladd neu gosbi'r tramgwyddwyr neu eu perthnasau.