Eidaleg (italiano) yw iaith Yr Eidal, San Marino, Swistir a'r Fatican. Yn ôl ystadegau yr Undeb Ewropeaidd, siaredir Eidaleg fel mamiaith gan 65 miliwn o bobl yn yr UE (13% o boblogaeth yr UE), yn Yr Eidal yn bennaf, ac fel ail iaith gan 14 miliwn o bobl (3%)[1]. Gan gynnwys siaradwyr Eidaleg mewn gwledydd nac ydynt yn rhan o'r UE (megis Y Swistir ac Albania) ac ar gyfandiroedd eraill, mae yna dros 85 miliwn o bobl yn siarad yr iaith.[2][3]

Eidaleg
italiano, lingua italiana
Ynganiad IPA [itaˈljaːno]
Siaredir yn Yr Eidal, San Marino, Malta, Y Swistir, Y Fatican, Slofenia (Istria Slofenaidd), Croatia (Swydd Istria), yr Ariannin, Brasil
Rhanbarth (fe'i gwyddys gan lawer o bobl hŷn a sectorau masnachol yn Somalia, Eritrea, a Libia; fe'i defnyddir yn y Senedd Ffederal Rhyngbarthol yn Somalia)
Cyfanswm siaradwyr 62 miliwn o bobl, sy'n frodorol a brodorol-ddwyieithog
Cyfanswm: 80 miliwn;[1]
85 miliwn yn ôl pob math[1]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Lladin (Yr wyddor Eidaleg)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn  Yr Undeb Ewropeaidd
Baner Yr Eidal Yr Eidal
 Y Swistir
Baner San Marino San Marino
 Dinas y Fatican
Baner Croatia Croatia (Swydd Istria)
Baner Slofenia Slofenia (Istria Slofenaidd)
Rheoleiddir gan nid yn swyddogol gan Accademia della Crusca
Codau ieithoedd
ISO 639-1 it
ISO 639-2 ita
ISO 639-3 ita
Wylfa Ieithoedd 51-AAA-q
Dyfyniad o'r Testament Newydd yn Eidaleg
Cymunedau Eidaleg ar hyd a lled y byd

Ymadroddion cyffredin golygu

  • italiano : Eidaleg
  • gallese : Cymraeg
  • inglese : Saesneg
  • 'salve! : helô! / hwyl fawr! (Gallwch ddweud salve! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
  • ciao!: shwmâi! / hwyl! (yn debyg i salve! ond yn anffurfiol)
  • saluti! : cyfarchion! (yn debyg i salve! ond yn fwy ffurfiol)
  • come sta? : sut mae?
  • buongiorno!: bore da!
  • buonasera! : p'nawn da! / noswaith dda!
  • arrivederci!: da boch chi! / Hwyl fawr!
  • buona notte! : nos da!
  • mi scusi! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
  • permesso! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
  • prego? : esgusodwch fi? (os ydych chi ddim wedi deall)
  • per favore / per piacere: os gwelwch chi'n dda
  • grazie: diolch
  • no grazie : dim diolch!
  • molte grazie / tante grazie : diolch yn fawr
  • prego! : da chi! (pan fydd rhywun yn dweud grazie!, atebwch gyda prego!.)
  • mi dispiace: mae’n ddrwg gen i, mae'n flin gen i
  • sì : ïe / do / oes ayyb.
  • no : nage / naddo / nac oes ayyb.
  • salute! / cin cin!: Iechyd da!

Llyfryddiaeth golygu

  • Berloco, Fabrizio (2018). The Big Book of Italian Verbs: 900 Fully Conjugated Verbs in All Tenses. With IPA Transcription, 2nd Edition. Lengu. ISBN 9788894034813.
  • Palermo, Massimo (2015). Linguistica italiana. Il Mulino. ISBN 9788815258847.
  • Simone, Raffaele (2010). Enciclopedia dell'italiano. Treccani.

Cyfeiriadau golygu

 
Wikipedia
Argraffiad Eidaleg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.