Cysyniad
Uned gwybyddol o ystyr - syniad haniaethol neu symbol meddyliol a ddiffinir weithiau fel "uned o wybodaeth", a grëir gan unedau eraill sy'n gweithredu fel ei nodweddion, yw cysyniad. Gan amlaf cysylltir cysyniad gyda chynrychiolaeth mewn iaith neu symbolaeth [angen ffynhonnell] megis ystyr unigol term.
Ceir damcaniaethau mewn athroniaeth gyfoes sy'n ceisio esbonio natur cysyniadau. Cynigia'r ddamcaniaeth gynrychioladol y meddwl fod cysyniadau yn gynrychioliadau meddyliol, tra bod damcaniaethau semantig o gysyniadau (sy'n tarddu o wahaniaeth Frege rhwng cysyniad a gwrthrych) yn credu eu bod yn wrthychau haniaethol.[1] Ystyrir syniadau yn gysyniadau, er nid yw cysyniadau o reidrwydd yn ymddangos yn y meddwl fel delweddau fel y gwna rhai syniadau.[2] Ystyria rhai athronwyr cysyniadau yn gategori ontolegol hanfodol o fod.