Yn ei ystyr mwyaf elfennol, rhywbeth sydd yn yr ymennydd pan fo rhywun yn meddwl yw syniad. Yn aml iawn, caiff syniadau eu creu fel cynrychioliad delweddol; h.y. delwedd o ryw wrthrych. Mewn cyd-destunau eraill, ystyrir syniadau yn gysyniadau, er nad yw cysyniadau haniaethol o reidrwydd yn ymddangos fel delweddau.[1] Ystyria nifer o athronwyr syniadau fel rhan allweddol o gategori ontolegol o fod.

Plato, un o'r athronwyr cyntaf i drafod syniadau mewn manylder.

Ystyrir y gallu i greu a deall ystyr syniadau yn rhan allweddol sy'n diffinio bodau dynol.

Yn ei ystyr boblogaidd, cwyd syniad mewn modd sydyn, digymell, heb hyd yn oed feddwl neu fewnsyllu, er enghraifft, pan fyddwn yn sôn am y syniad o berson neu le.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cambridge Dictionary of Philosophy
Chwiliwch am syniad
yn Wiciadur.