Cytundeb Paris (1259)
Cytundeb heddwch a arwyddwyd gan Louis IX, brenin Ffrainc ac Harri III, brenin Lloegr yn 1259 oedd Cytundeb Paris neu Gytundeb Abbeville a ddaeth â therfyn i gan mlynedd o ryfela rhwng y Capetiaid a'r Plantagenetiaid. Yn ôl gofynion y cytundeb, ildiodd Teyrnas Lloegr ei hawl i diroedd Normandi, Angyw, Poitou, a Maen, a chadwodd ei rheolaeth dros Bordeaux, Baewn, a Gwasgwyn. Cytunodd y Brenin Louis i dalu am bumcant o farchogion am gyfnod o ddwy flynedd, er budd Teyrnas Lloegr neu Eglwys Rufain.
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb |
---|---|
Dyddiad | 4 Rhagfyr 1259 |
Lleoliad | Paris |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |