Cytundeb Waitangi

Arwyddwyd Cytundeb Waitangi (Saesneg:Treaty of Waitangi, Māori: Tiriti o Waitangi) ar 6 Chwefror 1840 gan gynrychiolwyr Coron Prydain a phenaethiaid Māori amrywiol o Ynys y Gogledd, Seland Newydd.

Cytundeb Waitangi
Enghraifft o'r canlynolcytundeb Edit this on Wikidata
IaithMaori, Saesneg Edit this on Wikidata
LleoliadWaitangi Edit this on Wikidata
GwladwriaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cytundeb Waitangi

Arweiniodd y Cytuniad at sefydlu swydd Llywodraethwr Prydain dros Seland Newydd, cydnabyddiaeth o berchnogaeth y Māori dros eu tiroedd a’u heiddo, ac fe roddwyd i’r Māori hawliau fel deiliaid Prydeinig. Mae fersiynau Saesneg a Māori y Cytundeb yn wahanol yn sylweddol, felly nid oes consensws ynghylch beth yn union y cytunwyd iddynt. O safbwynt Prydain, rhoddodd y Cytundeb sofraniaeth i Brydain dros Seland Newydd a’r hawl i’r Llywodraethwr i lywodraethu'r wlad. Credodd y Māori ar y llaw arall eu bod yn ildio i'r Goron yr hawl i lywodraethu mewn cyfnewid am ddiogelwch, a’u bod yn parhau i fod ag awdurdod i reoli eu materion eu hunain.[1] Ar ôl y llofnodi cychwynnol yn Waitangi, aed â chopïau o'r Cytundeb o gwmpas Seland Newydd a thros y misoedd canlynol fe’i llofnodwyd gan benaethiaid eraill. Roedd cyfanswm o naw copi o'r Cytundeb Waitangi gan gynnwys y gwreiddiol a'i llofnodwyd ar 6 Chwefror 1840.[2] Fe wnaeth tua 530-540 o benaethiaid, o leiaf 13 ohonynt yn fenywod, arwyddo Cytuniad Waitangi.[3][4]

Hyd at y 1970au, ystyrir bod y Cytundeb yn gyffredinol wedi gwasanaethu ei bwrpas yn Seland Newydd y 1840au, ac fe'i hanwybyddwyd gan y llysoedd a senedd fel ei gilydd. Fe’i dehonglwyd yn hanes Seland Newydd fel gweithred hael ar y rhan Coron Prydain, a oedd ar y pryd yn ei anterth.[5] Mae’r Māori wedi edrych tuag at y Cytundeb am ddatrysiadau mewn achosion o gam-drin hawliau, colli tir a thriniaeth anghyfartal gan y wladwriaeth, gyda llwyddiant cymysg. O ddiwedd y 1960au dechreuodd y Māori dynnu sylw at achosion o dorri'r Cytundeb, ac mae hanes diweddar wedi pwysleisio problemau gyda'r cyfieithiad Māori o’r cytundeb.[6] Yn 1975, sefydlwyd Tribiwnlys Waitangi fel comisiwn parhaol gyda’r dasg o ymchwilio i achosion o dorri’'r Cytundeb gan y Goron neu ei gynrychiolwyr ac awgrymu dulliau o wneud iawn am hyn.

Heddiw fe’i hystyrir yn gyffredinol fel y ddogfen a sefydlodd Seland Newydd fel cenedl. Er hyn, mae'r Cytundeb yn aml yn destun dadlau brwd, a llawer o anghytuno rhwng y Māori a’r rhai o Seland Newydd nad ydynt o dras Māori. Mae llawer o’r Māori yn teimlo nad yw'r Goron yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Cytundeb, ac wedi cyflwyno tystiolaeth o hyn o flaen y Tribiwnlys. Mae rhai nad ydynt o dras Māori wedi awgrymu bod y Māori yn camddefnyddio'r Cytundeb er mwyn hawlio "breintiau arbennig".[7][8] Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes raid i’r Goron weithredu ar argymhellion y Tribiwnlys, ond serch hynny mewn sawl achos, mae’r Goron wedi derbyn ei bod yn torri'r Cytundeb a'i egwyddorion. Hyd yn hyn mae setliadau wedi cynnwys cannoedd o filiynau o ddoleri o iawndal mewn arian parod ac asedau, yn ogystal ag ymddiheuriadau.

Mae dyddiad y llofnodi bellach yn wyliau cenedlaethol ers 1974, ac fe elwir y diwrnod yn Ddiwrnod Waitangi.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Meaning of the Treaty". Waitangi Tribunal. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-14. Cyrchwyd 12 July 2011.
  2. "Treaty of Waitangi – Te Tiriti o Waitangi". Archives New Zealand. Cyrchwyd 10 August 2011.
  3. "Treaty of Waitangi". Waitangi Tribunal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-07. Cyrchwyd 10 August 2011.
  4. C. Orange.The Treaty of Waitangi.Bridget Willians .1987.Appendices P 260
  5. "The Treaty in practice: The Treaty debated". nzhistory.net.nz. Cyrchwyd 10 August 2011.
  6. "Treaty of Waitangi – Meaning". Waitangi Tribunal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-14. Cyrchwyd 10 August 2011.
  7. Dr Donald Brash (26 March 2004). "Orewa Speech -Nationhood". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-09. Cyrchwyd 20 March 2011.
  8. Radio Live (1 February 2012). "AUDIO: Laws vs. JT on the Treaty of Waitangi". Cyrchwyd 8 February 2012.