Ynys y Gogledd
Un o'r ddwy brif ynys sy'n ffurfio, gyda'u rhagynysoedd, gwlad Seland Newydd yw Ynys y Gogledd[1] (Maori: Te Ika-a-Māui; Saesneg: North Island). Mae'n cynnwys y brifddinas (a'r ddinas ail fwyaf) Wellington, a'r ddinas fwyaf, Auckland. Mae Culfor Cook yn gorwedd rhyngddi a'r ynys fawr arall, Ynys y De. I'r gorllewin ceir Môr Tasman ac i'r gogledd a'r dwyrain ceir y Cefnfor Tawel. Mae ganddi arwynebedd o 113,729 km sgwar a phoblogaeth o 3,148,400 o bobl (2001). Mynydd Ruapehu (2,797 m) yw'r mynydd uchaf.
Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | gogledd |
Poblogaeth | 3,519,800 ±50 |
Cylchfa amser | UTC+12:00, UTC+13:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Seland Newydd |
Sir | Seland Newydd |
Gwlad | Seland Newydd |
Arwynebedd | 113,729 ±1 km² |
Uwch y môr | 2,797 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 39°S 176°E |
NZ-N | |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 111.