Emosiwn yw cywilydd sy'n codi o'r ymwybyddiaeth o dorri ymddiried neu werth gymdeithasol. Mae ganddo le canolog mewn sawl athroniaeth, Gorllewinol ac an-Orllewinol. Ni ddylid ei gymysgu gyda euogrwydd (y teimlad), sydd â lle canolog yn nysgeidiaeth y crefyddau Abrahamig; mae euogrwydd yn rhywbeth a deimlir gan unigolyn ynddo ei hun tra bod cywilydd yn 'emosiwn gymdeithasol' sy'n dod o 'adael y lleill i lawr' fel petai.

Dywedir gan athronwyr fod y gallu i deimlo cywilydd yn sylfaenol i'r rhinweddau oll, a cheir dihareb Ethiopaidd sy'n crynhoi hynny: "does dim anrhydedd heb gywilydd".[1]

Ystyrir fod gwneud rhywbeth drwg heb deimlo cywilydd yn un o nodweddion pennaf dihiryn, sef cymeriad drwyadl ddrygionus.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ted Honderich (gol.). The Oxford Companion to Philosophy (Rhydychen, 1995), tud. 825.
  Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.