Dŵr (cân)

sengl gan Huw Jones

Cân wladgarol gan Huw Jones yw "Dŵr" a ysgrifennwyd yn 1969. Mae'r gân yn cyfeirio at foddi Cwm Tryweryn.[1]

Dyma oedd y sengl cyntaf a ryddhawyd gan label Sain, ac mae wedi ymddangos ar yr albymau canlynol:

  • SAIN y 70au - Cyfrol 1 (2012) Label Sain
  • Welsh Rare Beat (2005) Label Finders Keepers
  • Deugain Sain (2009) Label Sain[2]

Gyda chymorth Meic Stevens recordiwyd y sengl yn Stiwdio Central Sound yn Llundain. Hon oedd y record Gymraeg cyntaf i gael ei recordio ar beiriant aml drac a'i chymysgu mewn stereo.[3]

Cyfeiriadau golygu