Huw Jones (darlledwr)

canwr a darlledwr Cymreig

Canwr, darlledwr a dyn busnes yw Huw Jones (ganwyd 5 Mai 1948). Daeth yn ffigwr amlwg yng ngherddoriaeth Cymru yn y 1960au ac am ei gân brotest Dŵr oedd yn sôn am foddi Capel Celyn a Chwm Tryweryn. Cyd-sefydlodd nifer o gwmniau cyfryngol Cymraeg yn cynnwys Sain, Teledu'r Tir Glas a Barcud. Bu'n brif weithredwr S4C am ddegawd ac yn gadeirydd y sianel wedi hynny.

Huw Jones
GanwydDavid Huw Jones Edit this on Wikidata
5 Mai 1948 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, person busnes, darlledwr Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaS4C, Cwmni Recordiau Sain Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd David Huw Jones ym Manceinion. Symudodd y teulu i Gaerdydd lle addysgwyd Huw yn Ysgol Bryntaf ac Ysgol Uwchradd Y Bechgyn. Ar ôl gadael ysgol astudiodd Ffrangeg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.[1]

Cychwynnodd ganu yn gyhoeddus yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, ac yna yng nghlybiau canu gwerin yng Nghaerdydd. Roedd yn perfformio'n aml gyda cyfoedion fel Heather Jones, Geraint Jarman, Huw Jenkins ac Eluned Evans.

Gyrfa golygu

Ym 1968 arwyddodd i Welsh Teldisc a rhyddhau'r EP Cymru'r Canu Pop a flwyddyn yn ddiweddarach y sengl "Y Ffoadur". Nid oedd Huw yn hapus gyda chyfleusterau recordio cyntefig Welsh Teldisc ac felly ym 1969 ffurfio Cwmni Recordiau Sain gyda gyda Dafydd Iwan a Brian Morgan Edwards. Daeth yn reolwr-gyfarwyddwr y cwmni hyd at 1981.[2]

Cyd-sefydlodd un o'r cwmniau teledu annibynnol cyntaf, Teledu'r Tir Glas a'r cwmni adnoddau Barcud, ac roedd yn Gadeirydd y cwmni hwnnw rhwng 1981-1993. Mae nawr yn Gadeirydd Portmeirion Cyf., yn is-Gadeirydd Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ac yn Ymddiriedolwr y Gymdeithas Deledu Frenhinol.[3]

Erbyn y 1970au cynnar roedd yn cyflwyno y rhaglen bop wythnosol ar BBC Cymru, Disc A Dawn.

Roedd yn brif weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 a daeth yn gadeirydd Awdurdod S4C ym Mehefin 2011.[4] Ymddeolodd o'r swydd yn Medi 2019.[5]

Bywyd personol golygu

Dwy flynedd ar ôl sefydlu Sain, penderfynodd Huw a'i wraig symud i'r gogledd i fagu teulu. Symudodd i Landwrog gan rhentu bwthyn yno i ddechrau.[2]

Disgyddiaeth golygu

Senglau/EP golygu

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Blwyddyn Clip sain
Cymru'r Canu Pop EP 7" Teldisc- Pops y Cymro PYC 5436 1968
Y Ffoadur / Dewch I Ganu (La, La, La) Sengl 7" Welsh Teldisc WD 912 1969
Dŵr / Fy Ngwlad Fy Hun Sengl 7" Sain SAIN 1 1969
Paid Digalonni / Ffoi Sengl 7" Sain SAIN 3 1970
Gwylliaid Cochion Mawddwy EP 7" Sain SAIN 9 1970
Daw Dydd EP 7" Sain SAIN 21 1971
Dwi Isio Bod Yn Sais EP 7" Sain SAIN 33E 1973

Albymau golygu

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Blwyddyn
Adlais Albwm, LP Sain SAIN 1074H 1976

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gary Melville. BBC - Huw Jones. BBC Cymru. Adalwyd ar 18 Mehefin 2020.
  2. 2.0 2.1  Huw Jones – Gwestai Penblwydd. BBC Radio Cymru (29 Ebrill 2018). Adalwyd ar 18 Mehefin 2020.
  3.  Awdurdod S4C. S4C. Adalwyd ar 25 Mawrth 2017.
  4. Cadarnhau Huw Jones fel cadeirydd , BBC Cymru, 6 Mehefin 2011. Cyrchwyd ar 25 Mawrth 2017.
  5. Hugh Hesketh Evans yw Cadeirydd dros dro S4C , Golwg360. Cyrchwyd ar 7 Hydref 2019.