Diod feddal garbonedig sy'n cynnwys cwinin yw dŵr tonig (neu ddŵr tonig Indiaidd). Roedd yn wreiddiol yn cael ei ddefnyddio fel meddygaeth ataliol yn erbyn malaria. Erbyn hyn mae gan ddŵr tonig lefel sylweddol is o cwinin ac mae'n cael ei yfed oherwydd ei flas chwerw nodweddiadol. Mae'n aml yn cael ei ddefnyddio mewn diodydd cymysg, yn arbennig mewn coctel, fodca tonig a jin a thonig. Mae dŵr tonig gyda lemon neu leim yn cael ei alw'n lemon chwerw neu leim chwerw. Yn 1858 y cynhyrchwyd y dŵr tonig masnachol cyntaf.[1]

Mae'r cwinin mewn potel o ddŵr tonig yn fflworoleuol o dan olau uwchfioled.

Mae'r cwinin mewn dŵr tonig yn fflworoleuo dan olau uwch-fioled. Mae sensitifrwydd cwinin i olau uwchfioled mor uchel fel bod modd ei weld yn fflworoleuol yng ngolau dydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Raustiala, Kal. "The Imperial Cocktail". Slate. The Slate Group. Cyrchwyd 30 August 2013.