Afiechyd a achosir gan yr organeb Plasmodium yn y corff yw Malaria. Caiff yr organebau eu trosglwyddo gan barasitiaid protosoaidd fel y mosgito Anopheles.[1]

Malaria
Plasmodium yn symud drwy'r cytoplasm, o anifail i berson
Dosbarthu a chyfeiriadaeth allanol
ICD-ICD-10B50.-B54.
ICD- 9084
OMIM248310
Afiechydon7728
MedlinePlus000621
eMedicinemed/1385 emerg/305 ped/1357
Patient UKMalaria
MeSHC03.752.250.552

Ceir malaria yn y rhan fwyaf o wledydd yn y Trofannau, yn cynnwys rhannau o Asia, Affrica ac America. Pob blwyddyn mae rhwng 350-500 miliwn o bobl yn datblygu'r clefyd, a rhwng un a thri miliwn yn marw ohono, y mwyafrif ohonynt yn blant ieuainc yn Affrica i'r de o'r Sahara. Gwelir 90% o farwolaethau sy'n gysylltiedig â malaria yn Affrica Is-Sahara. Yn aml, cysylltir yr afiechyd â thlodi ac mae'r clefyd yn un o'r ffactorau pwysicaf sy'n atal datblygiad economaidd mewn rhai gwledydd yn y rhanbarth yma.

Malaria yw un o'r afiechydon heintus mwyaf cyffredin ac mae'n creu problem iechyd ddifrifol. Gall pedair rhywogaeth o organebau yn y genws Plasmodium achosi malaria mewn pobl; y rhywogaethau sy'n achosi'r math mwyaf difrifol o'r clefyd yw Plasmodium falciparum a Plasmodium vivax, ond gall Plasmodium ovale a Plasmodium malariae hefyd achosi malaria. Serch hynny, nid yw'r rhywogaethau yma o'r organebau yn achosi marwolaeth mewn pobl fel arfer. Ceir pumed rhywogaeth o'r organebau sef Plasmodium knowlesi. Gall hwn achosi malaria mewn macacos ond gall heintio pobl hefyd. Gan amlaf, cyfeirir at y rhywogaeth Plasmodim pathogenig-dynol hwn fel parasitiaid malaria.

Trosglwyddir yr organebau Plasmodium pan mae mosgito Anopheles benywaidd yn cnoi ac yn bwydo ar waed dynol. Dim ond y mosgito benywaidd Anopheles sy'n medru trosglwyddo'r afiechyd a rhaid fod y mosgito wedi bwydo ar waed person heintiedig yn flaenorol. Pan fo mosgita yn cnoi person sy'n dioddef o malaria, cymer y mosgito ychydig o waed, sy'n cynnwys parasitiaid malaria meicrosgopig. Tua wythnos yn ddiweddarach, pan fydd y mosgito'n bwydo am y tro nesaf, cymysga'r parasitiaid hyn gyda gwaed y mosgito a chant eu chwystrellu i mewn i'r person sy'n cael ei gnoi. Lluosa'r parasitiaid hyn yng nghelloedd coch y corff, gan achosi symptomau fel anemia (penysgafnder, diffyg anadl, calon-guriad cyflym a.y.y.b.), yn ogystal â symptomau cyffredinol eraill fel twymyn, oerfel, cyfog, salwch yn debyg i'r ffliw, ac mewn achosion difrifol coma a marwolaeth.

Gellir lleihau malaria trwy leihau'r nifer o'r mosgito neu trwy atal y mosgito rhag pigo, er enghraifft trwy gysgu gan rwyd mosgito neu ddefnyddio hylif atal mosgitos. Hefyd gellir rheoli mosgitos drwy chwystrelli pryfleiddiaid mewn adeiladau a chael gwared o ddŵr llonydd lle mae'r mosgitos yn dodwy eu wyau. Mae arbrofion a gwaith ymchwil i ddod o hyd i foddion i drin malaria wedi cael eu cynnal ond cymysg fu'r llwyddiant. Edrychwyd ar y posibilrwydd hefyd o drin y mosgitos yn enetig er mwyn eu galluogi i wrthsefyll y parasitiaid.

Ar un adeg, roedd malaria i gael yn ambell fan yng Nghymru. Mae Evan Isaac yn Coelion Cymru yn rhoi hanes Gwrach Cors Fochno; credid ei bod yn achosi afiechyd oedd yn creu cryndod yn y dioddefwyr. Ymddengys mai malaria oedd yr afiechyd.

Ardaloedd o'r byd lle ceir malaria. Gwyn: dim malaria; Melyn: lefel isel o falaria; Coch: lefel uchel o falaria; Coch tywyll: lefel uchaf o falaria.

Cyfeiriadau golygu

  1. WHO (2014). World Malaria Report 2014. Geneva, Switzerland: World Health Organization. tt. 32–42. ISBN 978-92-4156483-0.