Dacw Dadi'n mynd i'r ffair
Cân werin draddodiadol am anifeiliaid y fferm yw Dacw Dadi'n mynd i'r ffair, a genid gan blant. Mae'r geiriau'n darlunio golygfa o'r fferm, ac yn rhoi cyfle i'r canwr (a'r plant) ddynwred sŵn yr anifeiliaid.[1]
Y geiriau
golyguDacw Dadi wedi dod yn ôl;
"Dadi, ga i fynd â'r fuwch i'r ddôl?
Bore fory, cyn i chi ddeffro,
Mi af i'r beudy i ddysgu sut i odro."
"Mw, mw, mw!" meddai'r gwartheg ar y ddôl;
"Bow, wow, wow," meddai Pero ar eu hôl:
"Pero, Pero, taw â chyfarth,
A gyr y buchod i'w godro yn y buarth."
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Meinir Wyn Edwards, 100 o Ganeuon Gwerin (Y Lolfa, 2012), t.37