Dadansoddi cudd-wybodaeth
Y broses o ddadansoddi gwybodaeth o bwys strategol, ymgyrchol, neu dactegol yw dadansoddi cudd-wybodaeth a defnyddio hynny i ddeall, rhagolwg, a chynghori ar faterion cudd-wybodaeth, gwrth-ysbïwriaeth a diogelwch cenedlaethol. Mae'n un o gamau'r cylchred cudd-wybodaeth, ac mae'r dadansoddwr cudd-wybodaeth yn un o'r prif swyddi mewn asiantaethau cudd-wybodaeth.