"Yr hyn sy'n galluogi'r sofran doeth a'r cadfridog da i ymosod a gorchfygu, ac i lwyddo'r tu hwnt i ddynion cyffredin, yw rhagwybodaeth."

Sun Tzu, Sūnzǐ Bīngfǎ ('Celfyddyd Rhyfel')

Maes a phroses yw cudd-wybodaeth sy'n ymwneud â gwybodaeth sydd yn berthnasol i wladwriaeth wrth ffurfio a gweithredu polisi ac wrth amddiffyn yn erbyn bygythiadau i'w diogelwch cenedlaethol.[1] Mae'r term hefyd yn cyfeirio at y wybodaeth a gynhyrchir gan y broses honno.[2] Fe'i hystyrid yn elfen hanfodol o strategaeth filwrol[3] ac offeryn pwysig wrth lunio polisi tramor ac amddiffyn, ac yn achos gweithredu cudd wrth weithredu polisi yn ogystal â'i hysbysu.[4]

Mae union broses cudd-wybodaeth yn amrywio yn ôl ardal a chyfnod, ond hollbresennol yw'r drefn o weithwyr yn casglu a dadansoddi'r wybodaeth, ac yna gwneuthurwyr polisi yn ei hystyried a'u defnyddio.[3] Gelwir y model mwyaf cyffredin o'r broses gudd-wybodaeth yn y cylchred cudd-wybodaeth. Mae hwn yn cynnwys pennu dibenion cudd-wybodaeth, ei chasglu, ei dadansoddi, ei chyflwyno i wneuthurwyr polisi, ac yna o'r adborth caiff anghenion y gwneuthurwyr polisi eu cymryd mewn i ystyriaeth wrth bennu dibenion a chasglu unwaith eto.[5]

Elfennau cudd-wybodaeth

golygu

Casglu

golygu

Mae'r mathau o gudd-wybodaeth a gesglir yn cynnwys:[6]

Cudd-wybodaeth ddelweddau (IMINT)

Gwybodaeth a ddaw o systemau delweddu, yn bennaf lloerenni, gan ddefnyddio technoleg ffotograffiaeth, radar, a synwyryddion is-goch.

Cudd-wybodaeth ddynol (HUMINT)

Gwybodaeth a ddaw o bobl, a gesglir yn agored oddi wrth ddiplomyddion a swyddogion milwrol ac yn gudd oddi wrth ysbiwyr. Gall dod hefyd o ffoaduriaid a gwrthgilwyr.

Cudd-wybodaeth ffynhonnell-agored (OSINT neu OPINT)

Gwybodaeth a ddaw o'r parth cyhoeddus, megis gwefannau, papurau newydd, teledu, radio, a dogfennau llywodraethol.

Cudd-wybodaeth signalau (SIGINT)

Gwybodaeth a ddaw o signalau rhwng pobl, sef cudd-wybodaeth gyfathrebu (COMINT), neu signalau electronig fel arall (ELINT).

Dadansoddi

golygu

Pwrpas dadansoddi cudd-wybodaeth yw i wneud synnwyr o'r holl wybodaeth a gesglir, i wahanu'r signalau o'r sŵn (yma mae signalau yn cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol, nid signalau yn ystyr SIGINT). Cyfrifoldeb y dadansoddwr yw i hysbysu gwneuthurwyr polisi, ac i alluogi hwy i weithredu er buddiannau'r wlad gan ddefnyddio'r cudd-wybodaeth a roddir iddynt.[7] Nid yn unig yw dadansoddi yn ymdrin â dehongli gallu, bwriad, a gweithgareddau'r gelyn yn y presennol, ond hefyd yn ceisio rhagfynegi gallu, bwriad, a gweithgareddau'r gelyn yn y dyfodol.[8]

Gweithredu cudd

golygu

Y gallu i roi pwysau ar lywodraeth dramor heb i'r llywodraeth honno wybod ffynhonnell y pwysau yw gweithredu cudd.[9][10] Mae gweithredu cudd yn cynnwys pedair is-ddisgyblaeth: propaganda, gweithredu gwleidyddol, gweithredu parafilwrol, a rhyfela gwybodaeth.[9] Mae gweithredu cudd yn anodd ei ddiffinio o fewn maes cudd-wybodaeth, a chwestiynir os yw'n rhan o ddisgyblaeth cudd-wybodaeth o gwbl gan ei fod yn ymwneud â gweithredu polisi tramor yn hytrach na chasglu a dadansoddi gwybodaeth y seilir polisi tramor arni.[11] Er hyn, cysylltir gweithredu cudd â chudd-wybodaeth gan fod asiantaethau cudd-wybodaeth gan amlaf yn ei weithredu.[12]

Gwrth-ysbïwriaeth

golygu

Mae gwrth-ysbïwriaeth yn ymwneud ag amddiffyn medrau cudd-wybodaeth y wladwriaeth rhag gweithgareddau cudd-wybodaeth y gelyn.[13]

Gelwir cudd-wybodaeth, yn benodol ysbïwriaeth, yn "yr alwedigaeth hynaf ond un" o ganlyniad i'w hanes hir sy'n ymestyn yn ôl i'r Henfyd.[14][15]

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Astudiaeth a damcaniaeth

golygu

Gelwir y maes academaidd rhyngddisgyblaethol sydd yn ymwneud â chudd-wybodaeth yn astudiaethau cudd-wybodaeth. Mae'n is-faes o gysylltiadau rhyngwladol.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Shulsky a Schmitt (2002), t. 1.
  2. Jackson a Scott (2005), t. 164.
  3. 3.0 3.1 George (2010), t. 163.
  4. Jackson a Scott (2005), t. 162–4.
  5. George (2010), t. 164.
  6. George (2010), t. 165.
  7. George (2010), tt. 165–6.
  8. Shulsky (1991), t. 8.
  9. 9.0 9.1 Daugherty (2009), t. 281.
  10. Clark (2007), tt. 92–3.
  11. Shulsky a Schmitt (2002), t. 75.
  12. Clark (2007), t. 1.
  13. Shulsky (2002).
  14. Jackson a Scott (2005), t. 161.
  15. Andregg (2009), t. 52.

Ffynonellau

golygu
  • Andregg, M. 'Intelligence ethics: laying a foundation for the second oldest profession', yn Handbook of Intelligence Studies, golygwyd gan Loch K. Johnson (Abingdon, Routledge, 2009), tt. 52–63.
  • Clark, J. R. Intelligence and National Security (Westport CT, Praeger Security International, 2007).
  • Daugherty, W. J. 'The role of covert action', yn Handbook of Intelligence Studies, golygwyd gan Loch K. Johnson (Abingdon, Routledge, 2009), tt. 279–88.
  • George, R. 'Intelligence and Strategy', yn Strategy in the Contemporary World, golygwyd gan John Baylis, James J. Wirtz, a Colin S. Gray (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2010), tt. 161–81.
  • Jackson, P. a Scott, L. 'Intelligence', yn Palgrave Advances in International History, golygwyd gan Patrick Finney (Basingstoke, Palgrave Macmillan, 2005), tt. 161–88.
  • Shulsky, A. N. a Schmitt, G. J. Silent Warfare: Understanding the World of Intelligence. (Washington, D. C., Potomac, 2002).