Astudiaeth wyddonol o ronynnau paill a sborau ffosil yw dadansoddi paill, sydd hefyd yn astudiaeth o weddillion planhigion macrosgopig, sydd i'w cael mewn mawn a dyddodion organig gyda'r nod o ail-greu hanes llystyfiant ardal arbennig.

Cyflawnir y gwaith drwy durio i mewn i gorsydd gyda chymorth taradr, er mwyn sicrhau craidd o fawn a gwaddodion cysylltiedig. Wrth ddadansoddi'r paill fesul haenen denau, mae modd paratoi diagram paill sy'n portreadu cyfanswm neu gyfran y gwahanol fathau o baill ym mhob haenen. Yn ogystal â darparu gwybodaeth am y newidiadau i'r llystyfiant gyda threiglad amser, mae diagramau paill, o'u dehongli'n ofalus, hefyd yn darparu tystiolaeth ddirprwyol am newidiadau hinsoddol yn y gorffennol (gw. palaeohinsawdd).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.