Planhigion
Dosbarthiad gwyddonol
Parth: Eukaryota
Ddim wedi'i restru: Archaeplastida
Teyrnas: Plantae
Haeckel, 1866
Rhaniadau/Ffyla

Algâu gwyrdd

Planhigion tir

Grŵp o bethau byw yw planhigion. Ceir tua 300,000 o rywogaethau, gan gynnwys coed, blodau, glaswelltau, rhedyn, mwsoglau a rhai grwpiau o algâu. Astudiaeth planhigion yw botaneg. Organebau amlgellog (ac eithrio rhai o'r algâu) ac ewcaryotig yw planhigion. Maent i gyd yn creu bwyd eu hun drwy ffotosynthesis gan ddefnyddio cloroffyl.

Tacsonomeg

golygu

Dosberthir planhigion yn y deyrnas Plantae. Mae'r deyrnas hon yn cynnwys y planhigion tir (Embryophyta) ac, yn aml, mae'n cynnwys yr algâu gwyrdd (Chlorophyta a Charophyta) hefyd. Weithiau, mae'r algâu coch (Rhodophyta) a'r glawcoffytau (Glaucophyta) yn cael eu cynnwys tu fewn i'r deyrnas. Dosbarthwyd grwpiau eraill o algâu, ffyngau a bacteria fel planhigion yn y gorffennol ond fe'u dosberthir mewn teyrnasoedd gwahanol bellach.

Strwythur planhigion

golygu

Celloedd planhigion

golygu

Fel arfer, mae gan gelloedd planhigion gloroplastau, gwagolyn fawr a chellfur sy'n cynnwys seliwlos.

 
a. Plasmodesmata b. Cellbilen c. Cellfur 1. Cloroplast d. Pilen thylacoid e. Gronyn starts 2. Gwagolyn f. Gwagolyn g. Tonoplast h. Mitocondria i. Perocsisom j. Cytoplasm k. Fesiglau pilennog bach l. Reticwlwm endoplasmig garw 3. Cnewyllyn m. Mandwll cnewyllol n. Amlen gnewyllol o. Cnewyllan p. Ribosomau q. Reticwlwm endoplasmig llyfn r. Fesiglau Golgi s. Organigyn Golgi t. Cytosgerbyd ffilamentog

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am Planhigyn
yn Wiciadur.