Daeargryn Fukushima Ebrill 2011

Roedd daeargryn Fukushima ym mis Ebrill 2011 yn ôl-gryndod cryf maint 6.6 M ar Raddfa Richter, a ddigwyddodd am 17.16 JST (08:16 UTC), ar 11 Ebrill yn ardal Hamadōri, Fukushima, Japan. Gyda chanolbwynt bas o 13 cilomedr (8.1 milltir), digwyddodd y daeargryn mewndirol tua 36 cilomedr (22 milltir) i'r gorllewin o Iwaki – gan ysgwyd y tir yn eang ac yn gryf, ac yn ddifrifol yn lleol. Dyma un o'r ôl-gryndodau i ddilyn daeargryn Tōhoku ar 11 Mawrth, a'r cryfaf i gael ei uwchganolbwynt ar y tir. 

Digwyddodd y daeargryn o ganlyniad i ddiffygion yn y ffawt i'r gorllewin o Iwaki, a bu llawer o dirlithriadau ar draws ardaloedd mynyddig gerllaw. Achoswyd sawl tân, ac roedd 220,000 o dai heb drydan. Cyflwynodd swyddogion rhybuddion lleol am tsunami, er na fu unrhyw donau sylweddol. Prin oedd y difrod i strwythurau o ganlyniad i'r daeargryn, ond lladdwyd pedwar unigolyn a niweidiwyd deg arall. Er hyn, deffrodd y symud yn y tir ffawt ddaearegol gerllaw, gan arwain at arolygon helaeth o'r rhanbarth gan ymchwilwyr. 

Effeithiau golygu

 
USGS shake map

Digwyddodd y daeargryn yn hwyr yn y prynhawn, ger rhanbarth â phoblogaidd gymharol uchel, Fukushima Prefecture. Er hyn, roedd y rhan fwyaf o adeiladau ger y canolbwynt yn medru gwrthsefyll dirgryniadau.  Caeodd Maes Awyr Tokyo pob llwybr glanio yn y maes awyr, a bu cryn effeithiau i'r trenau hefyd.

Bu sawl tân o ganlyniad i'r daeargryn, gydag un mawr yn nhref Asakawa. Ymhellach, gwnaeth dirlithriad falu dwy gar, a chladdu tri chartref yn y ddinas. O ganlyniad, bu farw dau unigolyn yn syth. Cafodd pedwar o bobl eu hanafu'n ddifrifol a'u hebrwng i'r ysbyty, ond bu farw un yn hwyrach. 

Cyfeiriadau golygu