Fukushima (talaith)

Talaith yn Japan yw Fukushima neu Talaith Fukushima (Japaneg: 福島県 Fukushima-ken), wedi ei lleoli yn rhanbarth Tōhoku yng ngogledd-ddwyrain ynys Honshū. Prifddinas y dalaith yw dinas Fukushima.

Fukushima
Mathtaleithiau Japan Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFukushima Castle Edit this on Wikidata
PrifddinasFukushima Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,825,325 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Awst 1876 Edit this on Wikidata
AnthemFukushima-ken Kenmin no Uta Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMasao Uchibori Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00, amser safonol Japan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTōhoku Edit this on Wikidata
SirJapan Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Arwynebedd13,784.14 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNiigata, Yamagata, Miyagi, Gunma, Tochigi, Ibaraki Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.75028°N 140.46775°E Edit this on Wikidata
JP-07 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolFukushima prefectural government Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholFukushima Prefectural Assembly Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
governor of Fukushima Prefecture Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMasao Uchibori Edit this on Wikidata
Map
Talaith Fukushima yn Japan

Trychineb Niwclear Fukushima

golygu
Mae gennym erthygl ehangach ar y pwnc yma.

Yn dilyn daeargryn 11 Mawrth 2011 ffrwydrodd adeilad gwarchodol dau o'r chwech adweithydd niwclear atomfa Fukushima Dai-ichi a gaiff ei reoli gan TEPCO. Cododd lefel ymbelydredd led-led Japan a danfonwyd pobl o'u cartrefi o fewn radiws o 30 km. Mae 5 o weithwyr y cwmni wedi marw o ganlyniad i'w hymdrechion i wneud yr adweithyddion yn saff.[1]

Ar 11 Ebrill codwyd Lefel Rhyngwladol y drychineb o 5 i 7 sy'n ei gosod ar yr un lefel a Thrychineb Chernobyl (1986). Erbyn 29 Mawrth 2011, roedd isotopau ymbelydrol iodine-131 wedi eu canfod mewn gwledydd mor bell a Gwlad yr Iâ, Swistir a gwledydd Prydain.

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato