Dafad (ar y croen)

tyfiant bychan ar y croen

Sylwer: Nid yw'r erthygl hon yn sôn am ddafad (anifail).

Dafad
Enghraifft o:clefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathviral skin disease Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Afiechyd ar y croen a achosir gan feirws ydy dafad neu ddafaden. Fe'i ceir fel arfer ar draed (a elwir yn Saesneg yn verruca) neu ar y dwylo (Sa: wart). Yr enw a roddir ar y feirws sy'n ei achosi yw'r papilomafeirus dynol (Sa:human papillomavirus).

Mae nhw'n trosglwyddo o'r naill berson i'r llall yn rhwydd drwy gyffyrddiad croen.[1] Gall y feirws hefyd drosglwyddo o dywel i berson hefyd, neu o lawr. Yn aml, mi wna nhw ddiflannu a dychwelyd am rai blynyddoedd. Ceir tua 100 math o'r feirws.[2]

Meddygaeth amgen

golygu

Dywedir fod y canlynol yn clirio'r broblem: lemon, dant y llew a saets y waun.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-31. Cyrchwyd 2009-04-30.
  2. Champion, R.H., et al. Rook's Textbook of Dermatology. Blackwell Science. 1998. pp. 1029-1051.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato