Dafydd Jones (Isfoel)
Bardd Cymraeg oedd Isfoel neu Dai Cilie (ganwyd David Jones; 16 Mehefin 1881 – 1 Chwefror 1968), yn enedigol o'r Cilie, ger Llangrannog, Ceredigion, ac yn un o Fois y Cilie (gweler Teulu'r Cilie).
Dafydd Jones | |
---|---|
Ffugenw |
Isfoel ![]() |
Ganwyd |
1881 ![]() Llangrannog ![]() |
Bu farw |
1968 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
ffermwr, gof, bardd ![]() |
Ffermwr a gof wrth ei grefft oedd Isfoel. Roedd yn fardd penigamp ar y mesurau caeth a rhydd fel ei gilydd.
LlyfryddiaethGolygu
- Cerddi
- Cerddi Isfoel (1958)
- Ail Gerddi Isfoel (1965)
- Cyfoeth Awen Isfoel (1984, gol. T. Llew Jones)
- Ysgrifau
- Hen Ŷd y Wlad (1966).