T. Llew Jones
Nofelydd a bardd oedd Thomas Llewelyn Jones (11 Hydref 1915 – 9 Ionawr 2009), a ysgrifennai fel T. Llew Jones. Bu'n ysgrifennu am dros hanner canrif, ac mae'n un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol Cymru.
T. Llew Jones | |
---|---|
Cadeirio T. Llew Jones yn Eisteddfod Genedlaethol 1958. | |
Ganwyd | 11 Hydref 1915 Pentrecwrt |
Bu farw | 9 Ionawr 2009 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, awdur plant |
Plant | Iolo Ceredig Jones, Emyr Llywelyn |
Bywgraffiad
golyguGaned ef ym Mhentre-cwrt, Sir Gaerfyrddin. Mynychodd Ysgol Gynradd Capel Graig ac Ysgol Ramadeg Llandysul. Bu'n athro ac yna'n brifathro am 35 mlynedd yn Ysgol Gynradd Tre-groes ac yna yn Ysgol Gynradd Coed-y-Bryn ger Llandysul. Daeth i amlygrwydd fel bardd pan enillodd Gadair yn Eisteddfod Glyn Ebwy (1958) ac eto y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959.
Er iddo barhau i farddoni, daeth yn fwyaf adnabyddus fel awdur nofelau plant. Mae ambell lyfr yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol fel Barti Ddu a Twm Siôn Cati. Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau i gyd, y rhan fwyaf yn nofelau ond ambell un ffeithiol hefyd, megis Ofnadwy Nos, sef hanes llongddrylliad y Royal Charter. Addaswyd nifer o'i lyfrau ar gyfer teledu a chyfieithwyd nifer i'r Saesneg ac ambell un i ieithoedd eraill, megis Llydaweg.
Rhoddwyd gradd MA er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1977, ac enillodd Wobr Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad at lenyddiaeth blant. Ym mis Mawrth 2005, bron yn 90 oed, enillodd y gadair yn Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion.
Roedd T. Llew Jones hefyd yn ymwneud â gwyddbwyll. Roedd yn un o'r rhai wnaeth arwain ymgyrch lwyddiannus i weld Undeb Gwyddbwyll Cymru yn torri'n rhydd o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain (fel yr oedd bryd hynny) ac yn ymuno â FIDE fel aelod annibynnol ym 1970. Roedd hyn yn galluogi i Gymru gystadlu fel gwlad ar ei phen ei hun yn yr Olympiad Gwyddbwyll, a bu T. Llew yn rheolwr tîm Cymru yn Olympiad Nice, 1974.
Sefydlodd a rhedodd Gymdeithas Gwyddbwyll Dyfed, ei chynghrair, Clwb Gwyddbwyll Aberteifi, a Chyngres Agored Dyfed. Pan fu farw, yr oedd yn Is-lywydd Undeb Gwyddbwyll Cymru, ac yn Llywydd am Oes Cynghrair Gwyddbwyll Dyfed. Sefydlodd T. Llew hefyd gylchgrawn Y Ddraig, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn wrth iddo dyfu o fod yn gylchlythyr Cymdeithas Gwyddbwyll Dyfed i fod yn gylchgrawn gwyddbwyll Cymru yn ystod y 1970au. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr yn y Gymraeg ar wyddbwyll gyda'i fab, Iolo.
Roedd yn dad i'r gwleidydd Emyr Llewelyn, y chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Ceredig Jones ac Eira Prosser.
Yn 2012, enwyd ysgol gynradd newydd, Ysgol T Llew Jones, ym Mrynhoffnant ger Llandysul, ar ei ôl. Roedd yr ysgol yn cymryd lle pedair ysgol Blaenporth, Glynarthen, Rhydlewis a Phontgarreg.[1]
|
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau gan T. Llew Jones
golyguLlyfrau a olygwyd gan T. Llew Jones
golygu- Cerddi Gwlad ac Ysgol (Gwasg Aberystwyth, 1957)
- Ail Gerddi Isfoel: Ynghŷd â Hunangofiant Byr (Gwasg Gomer, 1965)
- Y Gwron o Dalgarreg: Cyfrol Deyrnged i'r Diweddar T. Ll. Stephens (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1967)
- Alun Cilie, Cerddi Pentalar (Gwasg Gomer, 1976)
- D. S. Jones, Hud yr Hydref: Cerddi D. S. Jones, Llanfarian (Gwasg Gomer, 1976)
- Dafydd Jones (Isfoel), Cyfoeth Awen Isfoel (Gwasg Gomer, 1981)
- William Crwys Williams, Cerddi Bardd y Werin: Detholiad o Farddoniaeth Crwys (Gwasg Gomer, 1994)
- Geiriau a Gerais (Gwasg Gomer, 2006) [blodeugerdd o farddoniaeth]
Llyfrau a addaswyd i'r Gymraeg gan T. Llew Jones
golygu- Robert Louis Stevenson, Ynys y Trysor (Gwasg Mynydd Mawr, 1986)
- Jules Verne, Rownd y Byd mewn 80 Diwrnod (Gwasg Gomer, 1986)
- Kevin Crossley-Holland, Storm (Gwasg Gomer, 1987)
- Christopher Maynard, Popeth am Ysbrydion (Gwasg Gomer, 1987)
- Dyan Sheldon, Cân y Morfilod (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1993)
- Mauri Kunnas, Santa (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1993)
- John Ryan, Jona Ym Mol y Morfil (Gwasg Cambria, 1994)
- Alison Morgan, Lladron Defaid (Gwasg Gomer, 2001)
Casgliadau gan olygyddion eraill
golygu- Y Môr yn eu Gwaed, gol. Siân Lewis (Gwasg Gomer, 1997) [detholiad o rannau o'i nofelau cyffrous]
- Trysorfa T. Llew Jones, gol. Tudur Dylan Jones (Gwasg Gomer, 2004)
- Y Fro Eithinog: Casgliad o Gerddi T. Llew Jones, gol. Idris Reynolds (Gwasg Gomer, 2015)
Cryno-ddisgiau
golygu- Lleuad yn Olau: Chwedlau Traddodiadol o Gymru, Tachwedd 2003, ail-gyhoeddwyd Chwefror 2005 (Tympan)
Llyfrau am T. Llew Jones
golygu- Siân Teifi, Cyfaredd y Cyfarwydd: Astudiaeth o Fywyd a Gwaith y Prifardd T. Llew Jones (Gwasg Cambria, 1982)
- Cyfrol Deyrnged y Prifardd T. Llew Jones, gol. Gwynn ap Gwilym (Cyhoeddiadau Barddas, 1982)
- Bro a Bywyd: T. Llew Jones, gol. Jon Meirion Jones (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
- Idris Reynolds, Tua'r Gorllewin ... Cofiant T. Llew Jones (Cyhoeddiadau Barddas, 2011)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Enwi ysgol newydd ym Mrynhoffnant ar ôl T Llew Jones. BBC (7 Medi 2012). Adalwyd ar 7 Medi 2012.