Dafydd y Sgotyn
Roedd Dafydd y Sgotyn (bu farw c. 1138) yn glerigwr a fu'n Esgob Bangor rhwng 1120 a 1138.
Dafydd y Sgotyn | |
---|---|
Bu farw | Rhagfyr 1139 |
Galwedigaeth | awdur, offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Esgob Catholig Bangor |
Mae rhywfaint o amheuaeth o ba genedl yr oedd Dafydd, fe'i disgrifir mewn gwahanol ffynonellau fel Cymro ac fel Gwyddel. Er gwaethaf ei enw, nid ymddengys ei fod yn Albanwr. Roedd yn Würzburg cyn 1110, ac yn y flwyddyn honno aeth gyda'r Ymerawdwr Henry V i'r Eidal. Ysgrifennodd hanes y daith yma.
Etholwyd ef yn Esgob Bangor trwy ddylanwad Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd, yn 1120.Roedd yr esgob blaenorol, Hervé le Breton, wedi cael ei yrru o'i esgobaeth gan y Cymry, a chan na allai Gruffudd a brenin Lloegr gytuno ar esgob newydd, bu'r esgobaeth yn wag am tua ugain mlynedd. Bygythiodd Gruffudd y byddai'n trefnu i'r esgob newydd gael ei gysegru yn Iwerddon yn hytrach na chan Archesgob Caergaint. Yn y diwedd cytunodd y brenin Harri I i dderbyn apwyntiad Dafydd, ar yr amod ei fod yn derbyn awdurdod Archesgob Caergaint drosto. Cysegrwyd ef gan Ralph, Archesgob Caergaint ar 4 Ebrill 1120 yn San Steffan.
Bu Dafydd yn gyfrifol am ail-adeiladu Cadeirlan Bangor, gyda chymorth rhodd sylweddol o arian gan Gruffudd ap Cynan. Mae'r rhannau hynaf o'r eglwys gadeiriol bresennol yn dyddio o'i gyfnod ef. Y cofnod olaf amdano yn Historia Gruffud vab Kenan yw ei fod yn bresennol wrth wely marw Gruffudd ap Cynan yn 1137. Credir y gall fod wedi dychwelyd i Würzburg i orffen ei oes fel mynach.
Llyfryddiaeth
golyguJohn Edward Lloyd (1911) The history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)