John Edward Lloyd

hanesydd, a golygydd cyntaf y Bywgraffiadur Cymreig.

Hanesydd a golygydd Cymreig oedd Syr John Edward Lloyd (oedd yn ysgrifennu fel J E Lloyd) (5 Mai 186120 Mehefin 1947), a'r hanesydd cyntaf i osod hanes cynnar Cymru ar seiliau cadarn.

John Edward Lloyd
Ganwyd5 Mai 1861 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mehefin 1947 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yn Lerpwl i rieni o Gymru, a bu'n fyfyriwr yn ngholeg Aberystwyth ac yna yng Ngholeg Lincoln, Prifysgol Rhydychen. Yn Rhydychen daeth i gysylltiad a Chymry eraill megis Owen Morgan Edwards, a bu ganddo ran flaenllaw yn y mudiad Cymru Fydd. Daeth yn ddarlithydd ar hanes Cymru yn Aberystwyth cyn dod yn bennaeth cyntaf Adran Hanes Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Ystryrir ei lyfr A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (1911) yn glasur, a hyd yn oed bron ganrif ar ôl dyddiad ei gyhoeddi mae'n parhau yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer hanes y cyfnod.

Ymhlith ei lyfrau eraill mae hanes gwrthryfel Owain Glyndŵr, Owen Glendower (1931). Ef oedd golygydd Y Bywgraffiadur Cymreig, er na chyhoeddwyd y gyfrol tan ar ôl ei farw. Gwnaed ef yn farchog yn 1934. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Tysilio ar Ynys Dysilio ger Porthaethwy.

Cyfansoddodd ei gyfaill Saunders Lewis farwnad gofiadwy iddo sydd ymhlith y mwyaf nodedig o gerddi Cymraeg yr ugeinfed ganrif.

Llyfryddiaeth golygu

Gwaith J.E. Lloyd (detholiad)
Astudiaethau

Gweler hefyd golygu