Dalgety Bay

tref yn Fife, yr Alban

Tref yn awdurdod unedol Fife, yr Alban, ydy Dalgety Bay[1] (Gaeleg yr Alban: Bàgh Dhealgadaidh).[2] Saif ar arfordir wrth aber Moryd Forth, tua 2.5 milltir (4 km) i'r dwyrain o dref Inverkeithing.

Dalgety Bay
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,050 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFife Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Uwch y môr19 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.0429°N 3.3676°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS20000501, S19000628 Edit this on Wikidata
Cod OSNT149841 Edit this on Wikidata
Map

Enwyd y dref a'r bae ar ôl pentref gwreiddiol Dalgety, ond heddiw dim ond adfeilion Eglwys y Santes Ffraid o'r 12g sydd ar ôl. Mae'r dref newydd, y dechreuwyd ei hadeiladu ym 1965, yn cymryd ei henw o'r prif fae y mae'n ffinio ag ef, ond mae'r dref yn ymestyn dros lawer o faeau a childraethau gan gynnwys Bae Donibristle a Bae Dewi Sant. Mae cyfran helaeth o drigolion y dref yn gymudwyr sy'n gweithio yng Nghaeredin.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Dalgety Bay boblogaeth o 9,870.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 9 Ebrill 2022
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2021-10-09 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 9 Ebrill 2022
  3. City Population; adalwyd 9 Ebrill 2022