Damcaniaeth Sapir-Whorf
Mae'r Hypothesis Sapir-Whorf yn ymwneud â'r berthynas rhwng iaith a meddwl. Dywed fod perthynas drwyadl rhwng categorïau gramadegol iaith ac ymddygiad a dehongliad o'r byd ar ran y sawl sy'n ei siarad. Hynny yw, fod y ffordd yr ydym yn edrych ar y byd yn cael ei llunio gan yr iaith yr ydym yn ei siarad: rydym yn deall y byd trwyddi. Gan nad yw unrhyw ddwy iaith yn cynrychioli'r byd yn yr un ffordd, bydd rhywun sy’n siarad Almaeneg yn gweld y byd yn wahanol i siaradwr Yakut er enghraifft. Mae sawl ffurf - cryf a gwan - i'r ddamcaniaeth.
Cefndir y ddamcaniaeth
golyguDadleuodd y llenor ac athronydd Sansgrit Bhartrihari (6g) fod iaith yn angori meddyliau. Cyflwynodd Wilhelm von Humboldt cysyniad tebyg i lawer yn y gorllewin yn ei draethawd Über das vergleichende Sprachstudium. Mae syniadau tebyg i'r ddamcaniaeth yn boblogaidd, a dedlir fod iaith yn cadw diwylliant at ei gilydd, bod unigolion yn teimlo’n rhan o’r un un peth drwy rannu’r un iaith. Hefyd dywed rhai fod iaith yn ffordd i wahaniaethu pobl a chodi ymwybyddiaeth o arwahaniaeth, neu mai'r gwahaniaeth mwyaf sylfaenol mewn cymdeithas yw iaith.
Honodd Whorf, a oedd yn ddisgybl i Sapir, fod iaith mor bwerus nes ei bod yn ‘mowldio’ ein safbwynt ar y byd yn llwyr a bod gan bobl sy’n siarad gwahanol ieithoedd gwahanol safbwynt ar y byd.
Barnau cyfredol ar y ddamcaniaeth
golyguErbyn heddiw, nid oes lawer o bobl yn credu yn fersiwn cryfaf y ddamcaniaeth Sapir-Whorf. Yn ôl Fasold,
- “At the present time, the Sapir-Whorf hypothesis is accepted as having some validity, but few scholars would agree with the strong version that says a speaker of a particular language is locked into a particular world-view by that language”.
Cwestiwn poblogaidd yw ‘Beth am bobl ddwyieithog?’. Mae'r rhain yn amlygu problemau yn Hypothesis Sapir-Whorf. Fodd bynnag, mae llawer yn derbyn y ddamcaniaeth fod yna berthynas hanfodol rhwng iaith a chymdeithas, a bod iaith hefyd yn fodd o bwysleisio gwahaniaethau. Dywed Bordieu,
- “the official language is bound up with the state, both in its genesis and in its social uses”.
Mae rhai gwladwriaethau yn mabwysiadau un iaith yn unig, ac mae yna lawer o ieithoedd nad oes ganddynt statws swyddogol o fewn unrhyw wlad. Fodd bynnag, o fewn y wladwriaeth ceir amrywiaeth ac amlygir hyn gan y ffaith fod yna tua 190 o wladwriaethau yn y byd yn cynnal tua 6,000 o ieithoedd - tua 30 iaith i bob gwladwriaeth ar gyfartaledd. Medd Duranti
- “a language only exists as a linguistic habitus, to be understood as a recurrent and habitual system of dispositions and expectations”.
Er fod iaith yn ein mowldio, nid iaith yw’r unig beth sy’n gwneud hyn. Rydym yn gweld drwy batrymau hanesyddol fod y wladwriaeth yn dueddol o ormesi amrywiaeth ieithyddol.
Dyfyniadau
golygu- "Human beings do not live in the objective world alone, nor alone in the world of social activity as ordinarily understood, but are very much at the mercy of the particular language which has become the medium of expression for their society. It is quite an illusion to imagine that one adjusts to reality essentially without the use of language and that language is merely an incidental means of solving specific problems of communication or reflection. The fact of the matter is that the 'real world' is to a large extent unconsciously built upon the language habits of the group. No two languages are ever sufficiently similar to be considered as representing the same social reality. The worlds in which different societies live are distinct worlds, not merely the same world with different labels attached... We see and hear and otherwise experience very largely as we do because the language habits of our community predispose certain choices of interpretation. (Sapir, 1958 [1929], p. 69)"
- "We dissect nature along lines laid down by our native languages. The categories and types that we isolate from the world of phenomena we do not find there because they stare every observer in the face; on the contrary, the world is presented in a kaleidoscopic flux of impressions which has to be organized by our minds—and this means largely by the linguistic systems in our minds. We cut nature up, organize it into concepts, and ascribe significances as we do, largely because we are parties to an agreement to organize it in this way - an agreement that holds throughout our speech community and is codified in the patterns of our language. The agreement is, of course, an implicit and unstated one, but its terms are absolutely obligatory; we cannot talk at all except by subscribing to the organization and classification of data which the agreement decrees. (Whorf, 1940, pp. 213–14)"
- “to say language is to say society” - Lévi-Strauss, anthropolegydd cymdeithasol.
- “language provides both the foundations of a shared cultural identity and the means for the reproduction of difference”. - De Barnardi