Wilhelm von Humboldt
Ieithydd ac athronydd yn yr iaith Almaeneg a diplomydd a gweinyddwr addysg yn llywodraeth Prwsia oedd Friedrich Wilhelm Christian Karl Ferdinand, Freiherr von Humboldt (22 Mehefin 1767 – 8 Ebrill 1835).[1]
Wilhelm von Humboldt | |
---|---|
Lithograff o Wilhelm von Humboldt gan Friedrich Oldermann ar ôl llun gan Franz Krüger | |
Ganwyd | Friedrich Wilhelm Christian Karl Ferdinand von Humboldt 22 Mehefin 1767 Potsdam, Kabinetthaus |
Bu farw | 8 Ebrill 1835 Berlin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, diplomydd, anthropolegydd, athro, gwleidydd, athronydd, llenor, hanesydd, cyfieithydd |
Swydd | ambassador of Germany to the United Kingdom |
Cyflogwr | |
Mudiad | German new humanism |
Tad | Alexander Georg von Humboldt |
Mam | Marie-Elisabeth von Humboldt |
Priod | Caroline von Humboldt |
Plant | Gabriele von Bülow, Adelheid von Hedemann, Caroline von Humboldt, Theodor von Humboldt |
Gwobr/au | Urdd yr Eryr Du, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Urdd y Dannebrog |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Wilhelm von Humboldt yn Potsdam, Prwsia, ar 22 Mehefin 1767. Ei frawd iau oedd Alexander von Humboldt. Astudiodd y gyfraith ym Merlin a Göttingen.
Cwblhaodd ei astudiaethau ym Mhrifysgol Jena o 1794 i 1797, ac yno magodd gyfeillgarwch agos â Friedrich Schiller.
Ysgolheictod ieithyddol
golyguCafodd Humboldt flas ar ieitheg wrth iddo deithio drwy Sbaen a Ffrainc, wedi iddo raddio o Brifysgol Jena. Ei brif weithiau yn y maes hwn yw ei astudiaethau o'r Fasgeg (1821) a'r Kavi, iaith hynafol Jawa, a gyhoeddwyd wedi ei farw (1836–40).
Gyrfa ddiplomyddol
golyguWedi iddo ddychwelyd i Brwsia ar ôl ei deithiau yn Sbaen a Ffrainc, penodwyd Humboldt yn weinidog preswyl Prwsia i Rufain, a gwasanaethodd yn y swydd ddiplomyddol honno o 1801 i 1808.
Gwasanaethodd yn llysgennad i Fienna, Llundain, a Berlin yn y cyfnod o 1810 i 1819. Yn ystod Cyngres Prag (1813), llwyddodd i ddwyn perswâd ar Awstria i ymgynghreirio â Rwsia a Phrwsia yn erbyn Ffrainc wrth i Ryfeloedd Napoleon barhau. Ym 1815, Ymddiswyddodd mewn protest yn erbyn polisïau'r llywodraeth.
Diwygiadau addysg
golyguYn ei draethawd Über das Studium des Klassischen Altertums (1793), crynhoiai Humboldt ei raglen ar gyfer diwygio addysg yn yr Almaen, syniadau sydd yn esiamplau o'r newydd-ddyneiddiaeth Almaenig. Dylanwadwyd arno yn gryf gan egwyddorion addysgol Johann Heinrich Pestalozzi, a sefydlodd sawl ysgol yn y Swistir.
Rhoddwyd gyfle i Humboldt roi ei syniadau ar waith pan gafodd ei benodi'n swyddog uwch yn adran gartref llywodraeth Prwsia ym 1809, ac yn gyfrifol yn y swydd honno am addysg gyhoeddus a materion crefyddol. Anfonai athrawon i'r Swistir i astudio dulliau Pestalozzi. Ar gais Humboldt, sefydlwyd Prifysgol Berlin ym 1809 gan y Brenin Ffredrig Wiliam III. Byddai'r honno yn cael ei hail-enwi'n Brifysgol Humboldt Berlin yn sgil ei hail-agor ym 1949. Bu Humboldt hefyd yn gyfrifol am ddiwygio'r drefn addysg gynradd ym Mhrwsia, gan godi'r safonau i hyfforddi ac ardystio athrawon. Ymddiswyddodd o'r adran gartref yn Ebrill 1810, am ei fod yn anfodlon â'i safle israddol.
Diwedd ei oes
golyguBu farw Alexander von Humboldt yn Tegel, ger Berlin, ar 8 Ebrill 1835.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Wilhelm von Humboldt. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2021.
Darllen pellach
golygu- Paul Robinson Sweet, Wilhelm von Humboldt: A Biography, dwy gyfrol (Columbus, Ohio: Ohio State University Press, 1978, 1980).
- James W. Underhill, Humboldt, Worldview and Language (Caeredin: Edinburgh University Press, 2009).