Damcaniaeth setiau wirebol
Mewn mathemateg, disgrifiad trylwyr o ddamcaniaeth setiau yw damcaniaeth setiau wirebol. Fe'i grëwyd er mwyn mynd i'r afael a'r croesddywediadau megis croesddywediad Russel a chroesddywediad Burali-Forti, a oedd yn rhan annatod o ddamcaniaeth setiau fel y'i datblygwyd gan Frege ac eraill. Mae sawl system wirebol posib i ddamcaniaeth setiau, ond system Zermelo-Fraenkel gyda gwireb ddewis yw'r fwyaf poblogaidd o lawer ymysg mathemategwyr.
Gwirebau ZF
golyguStrwythur dros resymeg radd-gyntaf yw damcaniaeth setiau Zermelo-Fraenkel. Setiau yw aelodau'r strwythur, a hafaledd a'r perthynas o aelodaeth yw'r perthynasau arno.
1) Gwireb estyniad: Mae dwy set yn hafal os yw'r un aelodau ganddynt.
2) Gwireb sylfaen: Mae gan bob set x nad yw'n wag aelod y fel fod x ac y yn setiau digyswllt.
3) Gwireb wahanu: Os yw z yn set a yn unrhyw briodwedd a all aelodau x o z gael, yna mae yna is-set y o z sy'n cynnwys yr x hynny yn z sydd ganddynt y priodwedd, a dim arall. Mae'r cyfyngiad i z yn angenrheidiol er mwyn osgoi gwrthddywediad Russel. Noder mai cyfres o wirebau yw hon, a bod yn fanwl gywir.
Ar gyfer unrhyw fformwla yn iaith ZFC gyda newidynnau rhydd ymysg :
4) Gwireb bario: Os yw x ac y yn setiau, yna mae yna set sy'n cynnwys y ddwy ohonynt.
5) Gwireb uniad: I bob set mae yna set A sy'n cynnwys pob set sy'n aelod o set sy'n aelod o .
6) Gwireb ail-osod: Ar gyfer pob ffwythiant ffurfiol f a'i barth yn set, mae yna set sy'n cynnwys amrediad f (namyn un amod i osgoi wrthddywediad). Cyfres o wirebau ydyw hon hefyd. Ar gyfer pob fformwla yn iaith ZFC gyda'i newidynnau rhydd ymysg :
Ystyr y meintiolydd yw fod o'r fath yn bodoli, a'i bod yn unigryw namyn hafaledd.
Defnyddia'r gwirebau canlynol y nodiant . Gellid profi o'r gwirebau uchod fod yn bodoli a'i bod yn unigryw ar gyfer pob set . Os mae yna set yn bodoli o gwbl, maent hefyd yn ymhlygu fod y set wag yn bodoli a'i bod yn unigryw.
7) Gwireb anfeidredd: Mae yna set X sy'n cynnwys y set wag, a phrydbynnag mae y 'n aelod o X, mae S(y) hefyd yn aelod o X.
8) Gwireb set-pŵer: I bob set x mae yna set y sy'n cynnwys pob is-set o x.
Mae yn dalfyriad o .
9) Gwireb ddewis: I bob set X mae yna berthynas deuol R sy'n iawn-drefnu X. Golyga hyn fod R yn drefn llinol ar X a bod elfen lleiaf dan R gan bob is-set an-wag o X.