Damcaniaeth setiau
Maes o resymeg fathemategol sy'n ymwneud â phriodweddau setiau yw damcaniaeth setiau. Datblygwyd y ddamcaniaeth yn gyntaf gan Georg Cantor gyda chymorth Richard Dedekind yn y 1870au, yn seiliedig ar waith George Boole. Roedd y ddisgyblaeth yn arloesol gan iddi drin setiau anfeidraidd yn yr un modd â gwrthrychau mathemategol meidraidd.[1] Ar droad y ganrif, darganfuwyd nifer o groesosodiadau a gwrthfynegiadau yn y damcaniaeth wreiddiol, a elwir bellach yn y dull naïf. Datblygodd felly sylfaen wirebol (acsiomatig) i ddamcaniaeth setiau, yn debyg i geometreg elfennol. O'r holl ddamcaniaethau setiau gwirebol y mwyaf adnabyddus yw'r system Zermelo–Fraenkel gyda'r wireb ddewis.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) set theory. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Awst 2016.
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) An Introduction to Set Theory gan William A. R. Weiss (Prifysgol Toronto)
- (Saesneg) Damcaniaeth setiau ar y periaint cyfrifiannol WolframAlpha