Damcaniaeth yr hergwd

Cysyniad o'r gwyddorau ymddygiadol yw damcaniaeth yr hergwd sydd yn cynnig ffordd amgen o atgyfnerthu cadarnhaol neu awgrymu anuniongyrchol i ddylanwadu ar weithredoedd, cymhelliant a dewisiadau grwpiau neu unigolion. Honnir bod hergydiau yr un mor effeithiol, os nad yn fwy effeithiol, na chyfarwyddyd uniongyrchol, deddfwriaeth neu orfodaeth.

Diffinio hergwd golygu

 
Enghraifft o hergwd: pry plastig mewn troethfa gyhoeddus. Gostyngodd yr amlder o biso y tu allan i'r droethfa gan 80%.[1]

Yn 2008 daeth llyfr Richard Thaler a Cass Sunstein, Nudge: Improving Decisions About Health, Wealth, and Happiness, â damcaniaeth yr hergwd i amlygrwydd. Daeth hefyd i sylw gwleidyddion yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig, yn y sector breifat ac iechyd cyhoeddus.[2] Cyfeiria'r awduron at ddylanwadu ymddygiad heb orfodaeth fel tadolaeth ryddfrydol a dylanwadwyr fel choice architectures. Diffina Thaler a Sunstein eu cysyniad fel:

A nudge, as we will use the term, is any aspect of the choice architecture that alters people's behavior in a predictable way without forbidding any options or significantly changing their economic incentives. To count as a mere nudge, the intervention must be easy and cheap to avoid. Nudges are not mandates. Putting fruit at eye level counts as a nudge. Banning junk food does not.

Yn y modd hwn, yn tynnu oddi ar economeg ymddygiadol, caiff hergwd ei ddefnyddio i ddylanwadu ar ymddygiad. Dyfarnwyd Gwobr Nobel am Economeg i Thaler yn 2017 am ei waith yn namcaniaeth yr hergwd.[3]

Enghraifft o hergwd ar waith yw system optio allan yn hytrach na system optio i mewn.[1] Yng Nghymru yn 2015, cyflwynwyd "caniatâd tybiedig" o ran rhoi organau os nad yw'r unigolyn yn optio allan, gyda'r nod o gynyddu'r nifer o bobl sydd yn rhoi organau.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Lucy Hooker. "Have you been nudged?", BBC (9 Hydref 2017). Adalwyd ar 3 Tachwedd 2017.
  2. (Saesneg) Aditya Chakrabortty. "From Obama to Cameron, why do so many politicians want a piece of Richard Thaler?", The Guardian (12 Gorffennaf 2008). Adalwyd ar 3 Tachwedd 2017.
  3. (Saesneg) "'Nudge' economist Richard Thaler wins Nobel Prize", BBC (9 Hydref 2017). Adalwyd ar 3 Tachwedd 2017.
  4. "Rhoi organau: Cyfraith newydd yn dod i rym", Golwg360 (1 Rhagfyr 2015). Adalwyd ar 3 Tachwedd 2017.