Golwg360
Mae Golwg360 yn wasanaeth newyddion dyddiol arlein a lansiwyd ym mis Mai 2009.
Enghraifft o'r canlynol | gwefan |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2009 |
Gwefan | http://www.golwg360.com |
Ariennir Golwg360 trwy gymysgedd o grantiau cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a gwerthiant hysbysebion a gwasanaethau masnachol drwy'r wefan. Derbyniodd grant dechreuol o £600,000 dros gyfnod o dair mlynedd, gan roi diwedd ar obeithion Dyddiol Cyf am gael arian cyhoeddus ar gyfer papur dyddiol print Cymraeg Y Byd. Ym Mawrth 2011 cafodd Golwg360 estyniad i'w grant am dair mlynedd arall wedi adroddiad ffafriol gan Wavehill Consulting.[1][2]
Er bod cryn gydweithio rhwng y Cylchgrawn Golwg a Golwg360 ar sawl lefel, yn wreiddiol roedd y ddau wasanaeth yn gweithredu fel busnesau ar wahân ac roedd gan y ddau olygyddion gwahanol. Yn Ebrill 2020 cyfunwyd y swyddi gan roi swydd Prif Olygydd i Golwg a Golwg360. Ers Hydref 2009, Owain Schiavone yw Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Golwg Newydd (Golwg360) ac mae'n gyfarwyddwr Golwg Cyf.
Golygyddion
golyguIfan Morgan Jones oedd golygydd cyntaf Golwg360, yn ei swydd rhwng Ionawr 2009 a Medi 2011.[3]. Cymerodd Bethan Lloyd y swydd yn 2011. Ym mis Mawrth 2020 apwyntiwyd Garmon Ceiro fel golygydd y cylchgrawn Golwg a gwefan Golwg360, a cychwynodd ei swydd ym mis Ebrill. Ers 2022, Alun Rhys Chivers yw’r golygydd. [4]
Adrannau
golyguMae prif adrannau'r wefan yn cynnwys:
- Newyddion
- Chwaraeon
- Celfyddydau
- Calendr
- Blog
- Bwyd
- Lle Pawb
- Adran Swyddi
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Newyddion am estyniad cytundeb Golwg360 (Cyngor Llyfrau Cymru); adalwyd 6 Hydref 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2011-12-12.
- ↑ "Adolygiad Wavehill o ddatblygiad y gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360; adalwyd 6 Hydref 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-26. Cyrchwyd 2011-12-12.
- ↑ Golygydd newydd i Golwg360.com Erthygl BBC Cymru Medi 2011; adalwyd 18 Rhagfyr 2013
- ↑ Garmon Ceiro yw Prif Olygydd newydd Golwg a Golwg360 , Golwg360, 4 Mawrth 2020. Cyrchwyd ar 22 Mehefin 2020.