Dameg y Mab Afradlon

Mae Dameg y Mab Afradlon [1] yn un o ddamhegion yr Iesu , sy'n ymddangos yn yn y Beibl yn Efengyl Luc 15:11–32. Mae'r Iesu’n rhannu’r ddameg gyda’i ddisgyblion, y Phariseaid, ac eraill.

Dameg y Mab Afradlon
Enghraifft o'r canlynoldamhegion yr Iesu Edit this on Wikidata
Rhan oLuc 15 Edit this on Wikidata
Cymeriadauy mab afradlon Edit this on Wikidata
Prif bwncafradwr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysDychweliad y Mab Afradlon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn y stori, mae gan dad ddau fab. Mae'r mab ieuengaf yn gofyn am ei gyfran o'i etifeddiaeth oddi wrth ei dad, sy'n caniatáu cais ei fab. Mae'r mab hwn, fodd bynnag, yn afradlon (hy, yn wastraffus ac yn ofer),[2] ac felly'n gwastraffu ei ffortiwn ac yn y pen draw yn mynd yn dlawd. O ganlyniad, rhaid iddo ddychwelyd adref yn waglaw gyda'r bwriadu o erfyn ar ei dad i'w dderbyn yn ol fel gwas. Er mawr syndod i’r mab, nid yw’n cael ei ddirmygu gan ei dad ond caiff ei groesawu’n ôl gyda dathlu a gwledd croesawgar.

Yn genfigennus, mae'r mab hŷn yn gwrthod cymryd rhan yn y dathliadau. Mae'r tad yn dweud wrth y mab hynaf: Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a'r eiddof fi oll ydynt eiddot ti. Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.

Y Mab Afradlon yw trydedd ddameg a'r olaf mewn cylch prynedigaeth, yn dilyn Dameg y Ddafad Golledig a dameg y Darn Arian Coll.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Bible Gateway passage: Luc 15:11-32 - Beibl William Morgan". Bible Gateway. Cyrchwyd 2024-03-24.
  2. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2024-03-25.