Cerdd Gymraeg gan Gwyn Thomas (1936–2010) yw "Damwain". Disgrifia'r bardd yn y gerdd hon ddamwain ffordd a welodd.[1]

Cynnwys golygu

Cerdd yw hon sy'n dangos erchyllter damwain car. Disgrifia'r bardd yr hyn a wêl mewn ffordd graffig ac ni all y darllenydd lai na gweld y ddamwain ei hun wrth ei darllen hi. Yn y pennill cyntaf clywn mai enw'r "bachgen byw" a laddwyd yw Arwyn:

"Mae'r gwaed yn goch ar y modur gwyn
Ac Arwyn yn wastraff ar hyd y ffordd.

Dechreua'r gerdd felly gyda gwrthgyferbyniad trawiadol: y lliw coch yn gwneud y car gwyn yn frwnt a bachgen ifanc "byw" yn ddim bellach ond gwastraff.[2] Digwyddodd y ddamwain pan aeth ei gerbyd "i wrthdrawiad â'r clawdd" ar "ddiwrnod o haul gwanwyn". Mae'r bardd yn manylu ar yr hyn a welodd ar ôl i'r ddamwain ddigwydd. Roedd ei waed wedi ei dywallt a'i gorff wedi ei "rwygo" ac yn gorwedd ar y ffordd. Darlunia'r dyfyniad isod pa mor wael oedd yr olygfa. Sylwer ar y cyflythrennu amlwg sy'n pwysleisio erchylldra'r ddamwain:

"Ar y metel yn grafion mae darnau o groen;
O gwmpas, picellau gwydyr a gwythiennau

Mae gwaed y bachgen byw (ei wythiennau) wedi ei daenu ar yr heol a'i wneud yn "llithrig". Fel arfer mae'r ffyrdd yn llithrig oherwydd olew neu rew, ond yma gwelir mai'r gwaed sy'n gwneud y "meclin" (metlin ffordd) yn llithrig.

Yn yr ail bennill cawn glywed sut y "rhwygwyd" ac y "tywalltwyd" Arwyn. Mae "rhwygwyd" yn awgrymu creulondeb y digwyddiad oherwydd pethau, nid person, sy'n cael eu rhwygo fel arfer. Mae'r delweddau cryf hyn yn awgrymu gweithred sydyn a ffyrnig. Trwy ddefnyddio ffurf amhersonol y berfau "rhwygwyd", "tywalltwyd", a "dieithrwyd" atgyfnerthir y creulondeb a'r ffaith mai ystadegyn arall i'w ychwanegu at y miloedd a leddir yn flynyddol mewn damweiniau ceir yw Arwyn.

Mae'r bardd fel petai methu â chredu bod y peth hyn wedi digwydd. Bu'r bachgen farw yn ystod y gwanwyn, a dyna sy'n eironig, am mai tymor o eni a deffro ydyw fel arfer. Disgrifia Gwyn Thomas effaith y ddamwain mewn tair llinell fer, ffeithiol: mewn deugain llath ar ddiwrnod braf daeth bywyd Arwyn i ben, ac mae'r bachgen ifanc a oedd yn llawn bywyd bellach yn ddieithr oherwydd bod ei gorff marw mor llonydd ac mor wahanol i'r hyn ydoedd:

"Daeth adnabod i ben yn y deugain llath hyn
Ar ddiwrnod o haul gwanwyn.
Dieithrwyd Arwyn gan angau.

Mae'r bardd yn disgrifio'r olygfa'n fanwl, yn union fel y mae'r cyfryngau'n eu gwneud, er mwyn creu ymateb yn y darllenydd.

Yn y trydydd pennill, clywn y newyddiadurwr a'r bobl fusneslyd yn sôn am y digwyddiad. Gwna'r bardd sylw ar y modd rydyn ni'n ymateb i newyddion am ddamweiniau. Nid yw'r manylion mor bwysig â hynny—y stori yw'r peth mawr. Rydyn ni'n sgwrsio amdanyn nhw yn hollol ddi-deimlad. Dim ond ychydig o glecs ydy'r stori i ni. Defnyddia'r bardd arddull ffeithiol, ddihid a choeglyd wrth restru'r manylion yn oeraidd. Ond mae'r bardd yn ymateb yn wahanol i'r bobl a'r newyddiadurwyr, am iddo weld y ddamwain yn ogystal â chlywed amdani, ac roedd hefyd yn adnabod y person a gafodd ei ladd. Ceir yr argraff na fydd y darlun erchyll fyth yn diflannu o feddwl y bardd. Yn y cwpled olaf, tanlinellir tristwch y sefyllfa yma:

"Clywsom ninnau hefyd,
A gwelsom."

Mesur golygu

Cerdd benrhydd ydy hon.

Arddull golygu

Defnyddia Gwyn Thomas ddelweddaeth eironig a thechneg dychan i bigo'r cydwybod am erchyllterau bob dydd megis damweiniau ffordd. Eironi ydy digwyddiad mor trasig "ar ddiwrnod o haul gwanwyn" gan fod yr adeg honno o'r flwyddyn yn dymor o dyfiant a geni yn hytrach na marwolaeth. Yn y llinellau canlynol, defnyddia'r bardd ddychan i ymosod mewn ffordd sarcastig a ffraeth ar ffaeleddau dynion:

"Ar y ffordd yn y fan-a'r-fan

Pan aeth cerbyd hwn-a-hwn o'r lle-a'r-lle"

Yn yr achos hyn, mae'n cyfeirio at y bobl fusneslyd yn y gymdeithas sy'n rhestru'r manylion am y ddamwain yn oeraidd.

Mae'r gerdd yn cynnwys enghreifftiau o wrthgyferbyniad ("mae'r gwaed yn goch ar y modur gwyn"), a defnydd effeithiol o ferfau amhersonol megis "rhwygwyd", "tywalltwyd", a "dieithrwyd" er mwyn pwysleisio pa mor erchyll oedd y ddamwain a'r effaith greulon ar gorff Arwyn.

Cyfeiriadau golygu

  1. Glyn Jones; John Rowlands (1980). Profiles: a visitors' guide to writing in twentieth century Wales (yn Saesneg). Gomer. t. 160. ISBN 9780850887136.
  2. "ADNABOD GODIDOWGRWYDD CYRTENS: Plant a phlentyndod yng gwaith Gwyn Thomas" (PDF). ORCA. Cyrchwyd 16 Hydref 2023.