Gwyn Thomas (bardd)

bardd Cymreig

Bardd Cymraeg ac ysgolhaig oedd Gwyn Thomas (2 Medi 193613 Ebrill 2016).[1] Am flynyddoedd lawer bu'n athro yn yr Adran Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor ac yn ddiweddarach yn bennaeth yr adran honno. Bu'n Fardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2006 a 2008. Mae ei ddefnydd o ymadroddion Cymraeg llafar toredig, ansicr a Seisnigedig yn nodweddiadol o'i waith.

Gwyn Thomas
Ganwyd2 Medi 1936 Edit this on Wikidata
Tanygrisiau Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ebrill 2016 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
SwyddBardd Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl hon yn trafod y bardd Cymraeg ac ysgolhaig. Os am ddarllen am y llenor Eingl-gymreig Gwyn Thomas pwyswch yma.

Cyhoeddwyd ei hunangofiant Bywyd Bach gan Wasg Gwynedd yn 2006.

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganed ef yn Nhanygrisiau a chafodd ei fagu ym Mlaenau Ffestiniog. Fe'i addysgwyd yn Ysgol Sir Ffestiniog, Prifysgol Cymru, Bangor a Coleg yr Iesu, Rhydychen.[2]

Gweithiau golygu

Ysgolheictod golygu

  • Y Bardd Cwsg a'i Gefndir (1971). Astudiaeth o waith Ellis Wynne.
  • Yr Aelwyd Hon (1970). Gwaith y Cynfeirdd.
  • Y Traddodiad Barddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976)
  • Gruffydd ab yr Ynad Coch (1982). Barddoniaeth Gruffudd ab Yr Ynad Coch, un o'r pennaf o Feirdd y Tywysogion.
  • Ymarfer Ysgrifennu (1977)
  • Presenting Saunders Lewis (1973) - cyd-olygydd
  • Detholiad o'i Gerddi gan Zbigniew Herbert, cyfieithwyd gan Gwyn Thomas, J Elwyn Jones, Nesta Wyn Jones. 'Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig - Cyfrol V' 1985
  • Diwéddgan (1969), cyfieithiad o Fin de Partie gan Samuel Beckett yn y gyfres Y Ddrama yn Ewrop; roedd hefyd yn olygydd y gyfres
  • diweddariad o Pedair Cainc y Mabinogi (1984)
  • Ellis Wynne, Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984)
  • Tales from the Mabiniogion (1984) - cyfieithiad o rai o'r Mabinogion ar y cyd â Kevin Crossley-Holland
  • Llên y Llenor: Alun Llywelyn-Williams (Gwasg Pantycelyn, 1988)
  • Duwiau'r Celtiaid, Llyfrau Llafar Gwlad (Gwasg Carreg Gwalch, 1992)
  • Gair am Air - Ystyriaethau am Faterion Llenyddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
  • Dafydd ap Gwilym: Y Gŵr sydd yn ei Gerddi (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2003)

Barddoniaeth golygu

Dramâu golygu

  • Lliw'r Delyn (1969)
  • Amser Dyn (Gwasg Gee, 1972)

Ysgrifau golygu

Hunangofiant golygu

  • Bywyd Bach, Cyfres y Cewri 30 (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 2006)

Astudiaethau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwyn Thomas wedi marw , Golwg360, 14 Ebrill 2016.
  2.  Y Fasnach Lyfrau Ar-lein - Yr Athro’n Fardd Cenedlaethol. Cyngor Llyfrau Cymru (13 Gorffennaf 2006). Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.