Damwain drên Manfalut
Gwrthdrawiad rhwng trên a bws ysgol oedd dawmwain drên Manfalut a ddigwyddodd ger Manfalut yn nhalaith Assiut, yr Aifft, ar 17 Tachwedd 2012.[1] Bu farw 50 o blant oed pedwar i chwech, a gyrrwr y bws.[2]
Lleoliad Manfalut |
---|
Dywedodd tystion yr oedd atalfeydd y groesfan ar agor pan darodd y drên y bws, a chafodd y bws ei dorri'n ddwy ran gan y gwrthdrawiad.[3] Yn ôl llywodraethwr y dalaith, roedd gwyliwr y groesfan yn cysgu ar y pryd, a chafodd ei arestio wedi'r ddamwain.[2]
Ymddeolodd y gweinidog cludiant, Mohamed Rashad, a phennaeth yr awdurdod rheilffyrdd yn sgil y ddamwain.[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Scores of schoolchildren die in Egypt crash. Al Jazeera (17 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2012.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Egypt bus crash kills 50 children near Manfalut. BBC (17 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2012.
- ↑ (Saesneg) Blaid, Edmund (17 Tachwedd 2012). 5-Train ploughs into school bus in Egypt, 50 killed. Reuters. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2012.