Damwain drên Odisha

Gwrthdrawiad rhwng tair trên ar gyrion dinas Balasore yn nhalaith Odisha, India, ar 2 Mehefin 2023 oedd damwain drên Odisha. Bu farw o leiaf 288 o bobl, ac anafwyd dros 900. Hon ydy'r ddamwain gyda'r nifer fwyaf o farwolaethau ar y rheilffyrdd yn India ers i ddwy drên wrthdaro yn Firozabad ym 1995.[1]

Tua 18:55 (Amser Safonol India) ar Ddydd Gwener, 2 Mehefin 2023, yng ngorsaf reilffordd Bahanaga Bazar, tarodd dwy drên o deithwyr—y Coromandel Express, ar daith o orsaf Shalimar yng Ngorllewin Bengal i Chennai, a'r Howrah Superfast Express, ar daith o orsaf Yesvantpur yn Bengaluru i Howrah—â'i gilydd ac yn erbyn trên nwyddau lonydd yn yr orsaf.

Mae'r union fanylion am achos y gwrthdrawiad yn ansicr. Wrth ddynesu at orsaf Bahanaga Bazar, mae'n bosib i'r Coromandel Express newid ei llwybr ar gam i'r llinell ddolennog, neu fel arall gael ei direilio yn y fan honno, gan felly taro â'r drên nwyddau a oedd yn sefyll yn y llinell osgoi. Wrth i gerbydau'r Coromandel Express gael eu bwrw oddi ar y cledrau, mae'n debyg iddynt wrthdaro â'r Howrah Superfast Express a oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall ar y rheilffordd baralel, gan daflu'r drên honno oddi ar ei thrac hefyd.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "India's 10 worst rail disasters before the latest tragedy", The Guardian (3 Mehefin 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Mehefin 2023.
  2. (Saesneg) Geeta Pandey, "Odisha train accident: How did three trains collide in Odisha?", BBC (3 Mehefin 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Mehefin 2023.