Damweiniau a digwyddiadau awyrennu
Diffinnir damwain awyrennu gan Atodiad 13 y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO). Gellir crynhoi'r diffiniad fel:
- Digwyddiad sy'n gysylltiedig â gweithrediad awyren sy'n digwydd rhwng yr amser mae unrhyw berson yn byrddio'r awyren gyda'r bwriad o hedfan ac yr amser mae pob person wedi dat-fyrddio, lle bo:
- a) person wedi ei anafu'n angheuol neu'n ddifrifol
- b) yr awyren yn dioddef o ddifrod neu fethiant adeileddol; neu
- c) yr awyren ar goll neu'n llwyr anghyraeddadwy.
Diffinnir digwyddiad awyrennu fel:
- Digwyddiad ar wahân i ddamwain, sy'n gysylltiedig â gweithrediad awyren, sy'n effeithio neu gall effeithio ar ddiogelwch gweithrediad.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (Atodiad 13) Archifwyd 2007-11-20 yn y Peiriant Wayback