Dan Aykroyd

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Ottawa yn 1952

Mae Daniel Edward "Dan" Aykroyd (ganed 1 Gorffennaf 1952) yn actor, comedïwr, sgrin-awdur, a cherddor Canadaidd-Americanaidd. Fe'i adnabyddir am ei rôl fel Ray Stantz yn Ghostbusters (1984) a Ghostbusters II (1989).[1]

Dan Aykroyd
GanwydDaniel Edward Aykroyd Edit this on Wikidata
1 Gorffennaf 1952 Edit this on Wikidata
Ottawa Edit this on Wikidata
Man preswylSydenham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Carleton
  • Lisgar Collegiate Institute
  • St. Patrick's High School
  • St. Pius X High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, sgriptiwr, ufologist, digrifwr, canwr, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd teledu, actor teledu, actor ffilm, actor llais, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGhostbusters, Yogi Bear, Antz Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadTom Davis Edit this on Wikidata
TadPeter H. Aykroyd Edit this on Wikidata
PriodDonna Dixon Edit this on Wikidata
PlantDanielle Aykroyd Edit this on Wikidata
Gwobr/auAelod yr Urdd Canada, Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Primetime Emmy am Ysgrifennu Eithriadol mewn Rhaglen Variety, Cerddoriaeth neu Gomedi, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Great Immigrants Award Edit this on Wikidata

Ganwyd a magwyd Aykroyd yn Ottawa, Ontario, Canada[2] yn fab i Samuel Cuthbert Peter Hugh Aykroyd, peiriannydd sifil, a Lorraine Hélène (yn gynt Gougeon) oedd yn ysgrifenyddes.[3][4] Daw ei fam o linach Ganadaidd Ffrengig, a'i dad o linach Seisnig, Gwyddelig, Albanaidd, Iseldiraidd, a Ffrengig.[5][6] Mae ganddo frawd, Peter, sydd hefyd yn actor comedi. Magwyd fel Pabydd, a bwriadodd weithio fel offeiriad tan yn 17 oed.[7] Mynychodd ysgolion uwchradd St. Pius X a St. Patrick's cyn mynd ymlaen i astudio troseddeg a chymdeithaseg ym Mhrifysgol Carleton. Ni chwblhaodd ei radd.

Mae Aykroyd yn ddinesydd parhaol yn yr Unol Daleithiau gyda dinasyddiaeth Gandaidd. Bu yn ddyweddïedig i'r actores Star Wars Carrie Fisher yn 1980. Priododd yr actores Donna Dixon yn 1983 ac mae ganddynt dri o blant, Danielle, Stella and Belle. Mae Aykroyd wedi disgrifio ei brofiadau gyda syndromau Tourette ac Asperger fel plentyn, er nad yw wedi derbyn diagnosis.[8] Roedd yn arfer bod yn heddwas wrth gefn yn Harahan, Louisiana.[9] Ystyria Aykroyd ei hun fel ysbrydegydd, sydd hefyd â diddordeb mewn sawl elfen o'r paranormal.[10]

Daeth Aykroyd i amlygrwydd gyntaf fel aelod o gast y rhaglen gomedi Americanaidd Saturday Night Live rhwng 1975 a 1979. Ers iddo adael y rhaglen y mae wedi dychwelyd fel gwestai nifer o weithiau.

Tra'n gweithio ar Saturday Night Live yn 1976, perfformiodd sgetsh gerddorol gyda John Belushi a fyddai'n dechrau'r band The Blues Brothers.[11] Daeth y band yn fwy amlwg wedi The Blues Brothers yn 1980, ffilm a gyd-ysgrifennwyd gan Aykroyd. Roedd y ddau'n ffrindiau mawr, ac y mae Aykroyd wedi sôn am y tristwch a deimlodd pan fu Belushi farw. Mae'r band yn parhau hyd heddiw gyda Aykyroyd yn ymddangos o bryd i'w gilydd.

Un o lwyddiannau mwyaf Aykroyd ers gadael Saturday Night Live yw'r ffilmiau Ghostbusters (1984) a Ghostbusters II (1989).[1] Yn ogystal â serennu yn y ffimliau fel Raymond "Ray" Stantz, yr oedd Aykroyd, ynghyd â'i gyd-seren Harold Ramis yn gyfrifol am ysgrifennu'r sgriptiau. Ysbrydolwyd y sgript gan ei ddiddordeb yn y maes paraseicoleg. Ymddangosa Aykroyd yn ailwampaid Ghostbusters yn 2016 mewn rôl gameo. Mae hefyd yn gynhyrchydd ar y ffilm.[12][13]

 
Aykroyd (ar y dde) ar set The Great Outdoors, 1987

Yn ogystal â rhain, mae Aykroyd wedi serennu mewn nifer o ffilmiau eraill, gan gynnwys 1941 (1979), Neighbors (1981), Trading Places (1983) gydag Eddie Murphy a Jamie Lee Curtis, Spies Likes Us (1985), Dragnet (1987) gyda Tom Hanks, Coneheads (1993), Exit to Eden (1994), Tommy Boy (1995), Getting Away with Murder (1996), Grosse Pointe (1997), Blues Brothers 2000 (1998), The Curse of the Jade Scorpion (2001), Pearl Harbor (2001), 50 First Dates (2004), a Yogi Bear (2010). Mae ei ymddangosiadau ar y teledu yn cynnwys, Coming Up Roise (1975 - 1978), The Nanny (1994), Soul Man (1997), Family Guy (2010), The Defenders (2011),[14] Top Chef Canada (2011).[15]

Mae Aykroyd hefyd yn entrepreneur, sefydlodd y cwmni canolfannau cerddoriaeth House of Blues yn 1992, a'r brand fodca Crystal Head Vodka yn 2007.

Ffilmyddiaeth

golygu

Ffilmiau

golygu
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1977 Love at First Sight Roy
1979 Mr. Mike's Mondo Video Jack Lord Priest / ei hun
1941 Sgt. Frank Tree
1980 The Blues Brothers Elwood J. Blues Hefyd yn ysgrifennwr
1981 Neighbors Vic
1982 It Came from Hollywood Ei hun
1983 Doctor Detroit Clifford Skridlow/Doctor Detroit
Trading Places Louis Winthorpe III
Twilight Zone: The Movie Teithiwr / gyrrwr ambiwlans
1984 Ghostbusters Dr. Raymond Stantz Hefyd yn ysgrifennwr
Indiana Jones and the Temple of Doom Art Weber Ymddangosiad cameo
Nothing Lasts Forever Buck Heller
1985 Into the Night Herb
Spies Like Us Austin Millbarge Hefyd yn ysgrifennwr
1987 Dragnet Sgt. Joe Friday
1988 The Couch Trip John W. Burns, Jr.
The Great Outdoors Roman Craig
Caddyshack 2 Capt. Tom Everett
She's Having a Baby Roman Craig Cameo heb gydnabyddiaeth
My Stepmother Is an Alien Steven Mills
1989 "Liberian Girl" Cameo Fideo cerddoriaeth gan Michael Jackson
Driving Miss Daisy Boolie Werthan
Ghostbusters II Dr. Raymond Stantz Hefyd yn ysgrifennwr
1990 Loose Cannons Ellis Fielding
Masters of Menace Johnny Lewis
1991 My Girl Harry Sultenfuss
Nothing but Trouble Alvin Valkenheiser Hefyd yn ysgrifennwr a chyfarwyddwr
1992 Chaplin Mack Sennett
Sneakers Mother
This Is My Life Arnold Moss
1993 Coneheads Beldar Conehead Hefyd yn ysgrifennwr
1994 A Century of Cinema Ei hun Rhaglen ddogfen
Exit to Eden Fred Lavery
My Girl 2 Harry Sultenfuss
North Pa Tex
1995 Canadian Bacon Swyddog OPP Heb gydnabyddiaeth
Casper Dr. Raymond Stantz Heb gydnabyddiaeth
Random Factor, TheThe Random Factor Dexter Rôl lais
Tommy Boy Ray Zalinsky, "The Auto Parts King"
1996 Rainbow Siryf Wyatt Hampton
Celtic Pride Jimmy Flaherty
Feeling Minnesota Ditectif Ben Costikyan
My Fellow Americans Yr Arlywydd William Haney
Getting Away with Murder Jack Lambert
Sgt. Bilko Y Cyrnol John T. Hall
1997 Grosse Pointe Blank Groser
1998 Antz Chip Rôl lais
Blues Brothers 2000 Elwood J. Blues Hefyd yn ysgrifennwr a chynhyrchydd
Susan's Plan Bob
1999 Diamonds Lance Agensky
2000 The House of Mirth Gus Trenor
Loser Dad
Stardom Barry Levine
2001 The Curse of the Jade Scorpion Chris Magruder
Evolution Y Llywodraethwr Lewis
Frank Truth, TheThe Frank Truth Ei hun Rhaglen ddogfen
On the Nose Dr. Barry Davis
Pearl Harbor Capt. Thurman
2002 Crossroads Pete Wagner
Unconditional Love Max Beasly
2003 Bright Young Things Yr Arglwydd Monomark
2004 Christmas with the Kranks Vic Frohmeyer
Shortcut to Happiness Julius Jenson
50 First Dates Dr. Joseph Keats
Intern Academy Dr. Cyrill Kipp
2007 I Now Pronounce You Chuck & Larry Capten Phineas Tucker
2008 War, Inc. Mr. Dirprwy Arlywydd
2010 Yogi Bear Yogi Bear Rôl lais
2012 The Campaign Wade Motch
The Ultimate Sacrifice Adroddwr
2014 Legends of Oz: Dorothy's Return Bwgan brain Rôl lais
Tammy Don
Get On Up Ben Bart
2015 Pixels 1982 Championship MC
2016 Ghostbusters Gyrrwr tacsi Ymddangosiad cameo

Teledu

golygu
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1974 Gift of Winter, TheThe Gift of Winter Goodly / Rotten / Maple Rôl lais
1975 Coming Up Rosie Purvis Bickle
1975–79 Saturday Night Live Amrywiol
1976 Beach Boys: It's OK, TheThe Beach Boys: It's OK Heddwas Hefyd yn ysgrifennwr
1978 All You Need Is Cash Brian Thigh
1986–91 The Real Ghostbusters Crëwr
1990 Dave Thomas Comedy Show, TheThe Dave Thomas Comedy Show Amrywiol Pennod 1.2
It's Garry Shandling's Show Boolie Shandling Pennod: "Driving Miss Garry"
The Earth Day Special Ffrind Vic
1991 Tales from the Crypt Capten Mulligan Pennod: "Yellow"
1994 The Nanny Dyn trwsio Pennod: "Sunday in the Park with Fran"
1995 Kesley Grammar Salutes Jack Benny Ei hun Rhaglen arbennig
1996–
2000
Psi Factor: Chronicles of the Paranormal Cyflwynydd 88 o benodau
1997 The Arrow Crawford Gordon Hefyd yn ymgynghorydd creadigol
1997 Home Improvement Y Parch. Mike Walker Pennod: "Losing My Religion"
Soul Man Y Parch. Mike Weber 25 o benodau
2001 Earth vs. the Spider Ditectif Arolygwr Jack Grillo Ffilm deledu
History's Mysteries Adroddwr Pennod: "The Children's Crusade"
2002 According to Jim Danny Michalsky 5 pennod
2009 Family Guy Ei hun Pennod: "Spies Reminiscent of Us"
X-Play Ei hun Pennod: "Quit Givin' Me the Bug Eye, Valkyrie"
2011 The Defenders Y Barnwr Max Hunter 2 bennod
2013 Behind the Candelabra Seymour Heller Ffilm deledu

Gemau fideo

golygu
Blwyddyn Teitl Rôl lais Nodiadau
2009 Ghostbusters: The Video Game Ray Stantz Hefyd yn ysgrifennwr
2010 Yogi Bear: The Video Game Yogi Bear
2015 Lego Dimensions Ray Stantz Sain o'r archif

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Klady, Leonard (17 Mai 1987). "Ghostly Movie". The Los Angeles Times. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2010.
  2. "Want Ads/Births". The Ottawa Evening Journal. 1 Gorffennaf 1952. t. 12.
  3. "Dan Aykroyd Biography (1952–)". Filmreference.com. Cyrchwyd 15 Ebrill 2012.
  4. Aykroyd, Peter H. (1992). The anniversary compulsion: Canada's centennial celebration, a model mega-anniversary. Dundurn Press Ltd. tt. ix. ISBN 1-55002-185-0.
  5. "The First Church of Dan Aykroyd". Webcitation.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-25. Cyrchwyd 15 Ebrill 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Biography for Dan Aykroyd". IMDb. Cyrchwyd 22 Hydref 2013.
  7. "The religion of Dan Aykroyd, actor, comedian". Adherents.com. 20 Medi 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-11. Cyrchwyd 22 Hydref 2013.
  8. Gross, Terry (2004-11-22). "Comedian -- and Writer -- Dan Aykroyd" (yn English). Fresh Air. Event occurs at 29:50. NPR. http://www.npr.org/templates/story/story.php?storyId=4181931.
  9. CISNMike (14 Chwefror 2007). "Dan Aykroyd Shows his Badge". Youtube.com. Cyrchwyd 15 Ebrill 2012.
  10. Aykroyd, Dan (18 Ebrill 2009). "Psychic News". Psychic News Issue #4001. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  11. "SNL Transcripts: Buck Henry: 01/17/76". Snltranscripts.jt.org. 1976-01-17. Cyrchwyd 2013-04-24.
  12. "Sony Plans New 'Ghostbusters' Film With Russo Brothers, Channing Tatum & 'IM3′ Scribe Drew Pearce". Deadline. 9 Mawrth 2015. Cyrchwyd 9 Mawrth 2014.
  13. "Reitman, Aykroyd Team For 'Ghostcorp'; Expanding "GHOSTBUSTERS" Franchise". Fangoria. 9 Mawrth 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-15. Cyrchwyd 9 Mawrth 2015.
  14. "Dan Aykroyd to Reunite with Jim Belushi on The Defenders". TVGuide.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-20. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2010.
  15. "TV Highlights: Dan Aykroyd on 'The Defenders'; Dina Lohan on '20/20'; 'Gold Rush: Alaska' finale". The Washington Post. 18 Chwefror 2011. Cyrchwyd 20 Chwefror 2011.