Daniel Morgan

Arloeswr, milwr a gwleidydd Americanaidd o dras Gymreig

Arloeswr, milwr, a gwleidydd Americanaidd o Virginia oedd Daniel Morgan (6 Gorffennaf 17366 Gorffennaf 1802). Un o dactegwyr maes brwydr mwyaf dawnus Rhyfel Annibyniaeth America (1775–1783) a fu. Yn ddiweddarach bu’n bennaeth ar filwyr yn ystod ataliad y Gwrthryfel Wisgi (1791–1794).

Daniel Morgan
Ganwyd6 Gorffennaf 1736 Edit this on Wikidata
Hunterdon County Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1802 Edit this on Wikidata
Winchester Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
SwyddCynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Member of the United States House of Representatives from Virginia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ffederal Edit this on Wikidata
PerthnasauPresley Neville Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur y Gyngres Edit this on Wikidata

Cymro o dras, yn enedigol o New Jersey, ymgartrefodd Morgan yn Winchester, Virginia. Daeth yn swyddog ym milisia Virginia a recriwtiodd gwmni o filwyr ar ddechrau'r Rhyfel Chwyldroadol. Yn gynnar yn y rhyfel, cymerodd Morgan ran yn alldaith Benedict Arnold i Quebec ac yn ymgyrch Saratoga. Gwasanaethodd hefyd yn ymgyrch Philadelphia ond ymddiswyddodd o'r fyddin ym 1779.

Dychwelodd Morgan i'r fyddin ar ôl Brwydr Camden, a bu’n arweinydd ar Fyddin y Cyfandir a fu’n fuddugol ym Mrwydr Cowpens. Ar ôl y rhyfel, ymddeolodd Morgan o'r fyddin eto a datblygu ystâd fawr. Galwyd yn ôl i’r gwasanaeth milwrol ym 1794 i gynorthwyo atal y Gwrthryfel Wisgi, a bu’n ben ar garfan o'r fyddin a arhosodd yng Ngorllewin Pennsylvania ar ôl y gwrthryfel. Yn aelod o'r Blaid Ffederal, ymgyniogiodd Morgan fel ymgeisydd i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau ddwywaith, gan ennill sedd yn y Tŷ ym 1796. Ymddeolodd o'r Gyngres ym 1799 a bu farw ym 1802.

Credir i Daniel Morgan gael ei eni ym mhentref New Hampton, New Jersey [2], yn Nhrefgordd Libanus (Lebanon Township). [3] Mewnfudwyr o Gymru oedd ei ddau dad-cu a’i ddwy fam-gu, a ymsefydlodd yn Pennsylvania. [4] Y pumed o saith plentyn James Morgan (1702–1782) ac Eleanor Lloyd (1706–1748) oedd Morgan. Ac yntau’n ddwy ar bymtheg oed, ymadawodd â’i gartref yn sgîl ymrafael â’i dad. Ar ôl gwneud mân orchwylion ym Mhennsylfania, symudodd i Ddyffryn Shenandoah. Ymgartrefodd o'r diwedd ar derfyn Virginia, yn yr ardal lle y mae bellach tref Winchester, Virginia.

Bu’n clirio tir, gweithio mewn melin lifio, ac yn gweithio fel cludwr. Ymhen dim ond blwyddyn yr oedd wedi arbed digon i brynu ei wedd o ychain ei hun. Roedd Morgan wedi gwasanaethu fel cludwr sifil yn ystod y Rhyfel yn erbyn y Ffrancwyr a'r Indiaid (1754-1763), gyda'i gefnder Daniel Boone. [5] Ar ôl dychwelyd o'r blaensymudiad ar Fort Duquesne (Pittsburgh) o dan orchymyn y Cadfridog Braddock, cafodd ei gosbi â phum cant namyn un (499) o chwipiadau (dedfryd angheuol oedd hon fel arfer) am daro ei uwch swyddog. [6] Yn y modd hwn, taniwyd ynddo gasineb tuag at Fyddin Loegr. Yna cyfarfu ag Abigail Curry; priodasant a chael dwy ferch, Nancy a Betsy.

Yn ddiweddarach, gwasanaethodd Morgan fel reifflwr yn y lluoedd taleithiol a gasglwyd ynghyd i amddiffyn yr aneddiadau gorllewinol rhag cyrchoedd yr Indiaid, yr hyn a gefnogid gan Ffrainc. Beth amser ar ôl y rhyfel, prynodd fferm rhwng Winchester a Battletown. Erbyn 1774, roedd mor llewyrchus nes ei fod yn berchen ar ddeg caethwas. [7] Y flwyddyn honno, gwasanaethodd yn Rhyfel Dunmore, gan gymryd rhan mewn cyrchoedd ar bentrefi’r llwyth Shawnee yng Ngwlad Ohio.

Chwyldro America golygu

Ar ôl i Ryfel Chwyldroadol America ddechrau yn Brwydrau Lexington a Concord ar Ebrill 19, 1775, crewyd y Fyddin Gyfandirol ar Fehefin 14, 1775 gan y Gyngres Gyfandirol . Dymunasant ffurfio 10 cwmni reiffl o'r cytrefi canol i gefnogi'r Gwarchae ar Boston, ac yn hwyr ym mis Mehefin 1775 cytunodd Virginia i anfon dau. Dewisodd Tŷ Bwrdeisiaid Virginia Daniel Morgan i ffurfio un o'r cwmnïau hyn a dod yn bennaeth arno. Roedd eisoes wedi bod yn swyddog ym milisia Virginia ers Rhyfel yn erbyn y Ffrancwyr 'r Indiaid..

Recriwtiodd Morgan 96 o ddynion mewn dim ond deng niwrnod a'u hymgynnull yn Winchester ar Orffennaf 14. “Reifflwyr Morgan” (“Morgan's Riflemen") fu’r llysenw ar y cwmni o saethwyr o dan ei reolaeth. Codwyd cwmni arall o Shepherdstown gan ei wrthwynebydd, Hugh Stephenson. Roedd cwmni Stephenson yn bwriadu cwrdd â chwmni Morgan yn Winchester i ddechrau, ond erbyn i Stephenson gyrraedd gwelodd eu bod wedi ymadael â’r pentref yn barod. Gwnaeth Morgan I’w ddynion orymdeithio chwe chan (600) milltir (naw cant a thrigain a deg cilomedr, 970 km) i Boston, Massachusetts mewn 21 diwrnod, gan gyrraedd ar Awst 6, 1775. [8] [9] Roedd pobl yr ardal honno yn ei alw'n "Ymdaith y Llwybr Tarw” (“Bee-Line March"). Roedd Stephenson wedi ymadael â’i ddynion yntau ddau ddiwrnod wedyn, a daethant am chwe chan (600 milltir) o'u man cyfarfod yn Morgan's Spring (= ffynnon Morgan) mewn 24 diwrnod, gan gyrraedd felly yn Cambridge ddydd Gwener Awst 11, 1775 . [10] Roedd gan gwmni Morgan fantais sylweddol dros unedau eraill. Yn lle'r arfau tryfesur llyfn a ddefnyddid gan y mwyafrif o gwmnïau Lloegr ac America, roedd ei ddynion yntau yn cario reifflau. Roeddent yn ysgafnach, yn haws i'w tanio, ac yn llawer sicrach o daro’u targed, er eu bod ar y llaw arall yn arafach i'w hail-lwytho. Defnyddiodd cwmni Morgan dactegau gerila, gan saethu yn gyntaf y tywyswyr o Indiaid a arweiniai luoedd Prydain drwy’r tir garw. Yna targedu'r swyddogion a wnaethai. Roedd Byddin Loegr o'r farn bod y tactegau gerila hyn yn warth; boed fel y byddo, gwnaethant lanastr o fewn rhengoedd milwyr Lloegr. [angen dyfyniad]

Goresgyniad Canada golygu

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, awdurdododd y Gyngres Gyfandirol oresgyniad Canada. Argyhoeddwyd y Cyrnol Benedict Arnold gan y Cadfridog Washington i gychwyn ymosodiad o’r dwyrain i gefnogi’r goresgyniad gan y Gwyddel Richard Montgomery. Cytunodd Washington i anfon tri chwmni o'i luoedd yntau yn Boston, ar yr amod eu bod yn cytuno gwneud hynny. Gwirfoddolodd pob un o gwmnïoedd Boston, a phenderfynnwyd pwy gelai fynd drwy dynnu blewyn cwta. Roedd cwmni Morgan yn un ohonyn nhw. Capten Morgan a ddewisiwyd gan Benedict Arnold i arwain y tri chwmni fel bataliwn. Aeth alldaith Arnold allan o Fort Western ar Fedi 25, a Morgan yn arwain y garfan flaen.

Cychwynnodd Alldaith Arnold â rhyw fil (1,000) o ddynion; erbyn iddynt gyrraedd Quebec ar y nawfed o fis Tachwedd, nid oedd ond chwe chant (600) ohonynt. Pan gyrhaeddodd dynion Montgomery, cyrch ar y cyd a ddygwyd ganddynt. Dechreuodd Brwydr Quebec fore Rhagfyr 31. Ymosododd y Gwladgarwyr (“Patriots”) â symudiad gefail – o dan Montgomery fu un fraich a’r naill o dan Arnold.

Ymosododd Arnold ar ran isaf y ddinas o'r gogledd, ond dioddefodd glwyf i'w goes yn gynnar yn y frwydr. Cymerodd Morgan reolaeth ar y llu, a llwyddodd i oresgyn y rhagfur cyntaf a mynd i mewn i'r ddinas. Cychwynnodd llu Montgomery eu hymosodiad mewn storm eira a elai’n waeth-waeth. Yn foli gyntaf milwyr Lloegr lladdwyd Montgomery, a bu farw neu anafwyd llawer o'i filwyr, heblaw am Aaron Burr. A Montgomery allan ohoni, methiant fu ei ymosodiad. O ganlyniad, llwyddodd y Cadfridog o Sais Carleton i arwain cannoedd o ddynion milisia Quebec i amgylchu’r ail ymosodiad. Llwyddodd Carleton hefyd i symud ei ganonau a'i ddynion i'r barricâd cyntaf, y tu ôl i luoedd Morgan. Wedi eu rhannu ac yn darged i arfau tân o bob tu, o dipyn I beth ildiodd milwyr Morgan. Trosglwyddodd Morgan ei gleddyf i offeiriad Canadaidd- Ffrengig, gan wrthod ei roi i Carleton fel arwydd o ildiad ffurfiol. Felly eaeth Morgan yn un o'r tri chant trigain a deuddeg (372) o ddynion a gipiwyd, a pharhaodd yn garcharor rhyfel nes iddo gael ei gyfnewid ym mis Ionawr mil saith gant dau ar bymtheg a thrigain (1777).

Unfed Gatrawd ar Ddeg Virginia golygu

Pan ailymunodd â Washington yn gynnar ym mil saith gant dau ar bymtheg a thrigain (1777), synnodd Morgan o glywed iddo gael ei ddyrchafu'n gyrnol am ei ddewrder yn Québec. Gorchmynnwyd iddo ymgynull catrawd newydd o droedfilwyr, Unfed Gatrawd ar Ddeg Virginia o’r Llinell Gyfandirol, a bod yn bennaeth arni,

Ar Fehefin 13, 1777, rhowd i Morgan reolaeth ar y Corfflu Reifflwyr Dros Dro (Provisional Rifle Corps), llu troedfilwyr ysgafn o bum cant (500) o reifflwyr a ddewiswyd o gatrawdau Pennsylvania, Maryland a Virginia o'r Fyddin Gyfandirol. Roedd llawer o'r milwyr o'i 11eg Gatrawd ei hun. Anfonwyd hwy gan Washington i erlid ôl-fyddin y Cadfridog William Howe, ac felly gwnai Morgan drwy gydol ei chiliad ar draws New Jersey.

Saratoga golygu

Ail-drosglwydwyd Morgan â rhan o’i gatrawd o dan ei arweiniad i Adran Ogleddol y fyddin ac ar Awst 30 ymunodd â'r Cadfridog Horatio Gates i gynorthwyo gwrthsefyll ymosodiad Burgoyne. Mae Morgan I’w weld yn glir yn y llun o Ildiad y Cadfridog Burgoyne yn Saratoga gan John Trumbull. [13]

Freeman's Farm golygu

Arweiniodd Morgan ei gatrawd, gyda chefnogaeth ychwanegol troedfilwyr New Hampshire, llu o dri chant (300) o ddynion o dan Henry Dearborn, fel cynnorf y prif luoedd. Yn Freeman's Farm, fe tarodd ar gynnorf asgell y Cadfridog Simon Fraser o fyddin Burgoyne. Bu farw pob swyddog yn nghynnorf y Saeson yn y tanio cyntaf, ac aeth y milwyr cyffredin ar ffo.

Rhuthrodd dynion Morgan arnynt yn ddi-orchymyn, ond diffygio a wnaeth y cyrch wrth iddynt gwrdd â'r brif golofn dan arweiniad y Cadfridog Hamilton. Cyrhaeddodd Benedict Arnold, a llwyddodd ef a Morgan i ail-ffurfio’r uned. Wrth i'r Saeson ddechrau ymfyddino ar gaeau fferm Freeman, parhaodd dynion Morgan i dorri trefniannau’r Saeson dan danio'n ddi-feth arnynt o'r coed ym mhen pellaf y cae. Ymunwyd â hwy gan saith gatrawd arall o Bemis Heights.

Am weddill y prynhawn, yr oedd tanio’r Americanwyr yn ffrwyno’r Saeson, ond gwrthyrrwyd rhythrau’r Americanwyr dro ar ôl tro gan fidogau milwyr Lloegr.

Bemis Heights golygu

Bu brwydr arall, Brwydr Bemis Heights, ar Hydref 7 wrth i Burgoyne ymosod unwaith eto ar yr Americanwyr. Neilltuwyd Morgan i ystlys chwith (neu orllewinol) safle’r lluoedd Americanaidd. Troi'r ystlys honno fu bwriad Lloegr, trwy flaensymudiad gan fil pum cant (1,500) o’i dynion. Fel cynlyniad, aeth brigâd Morgan yn benben unwaith eto â lluoedd y Cadfridog Fraser.

Daliwyd troedfilwyr ysgafn y Saeson yn y croesdanio rhwng catrawd Dearborn a manwlsaethwyr Virginia o dan Morgan a oedd wedi cael mynd trwy safleoedd teyrngarwyr Canada. Ymchwalodd y corff o droedfilwyr ysgafn, a bu’r Cadfridog Fraser yn ceisio eu ralïo, gan annog ei ddynion i ddal eu safleoedd pan gyrhaeddodd Benedict Arnold. Gwelodd Arnold ef a galwodd ar Morgan: "Bygythiad o’r mwyaf yw’r dyn hwnnw ar y ceffyl llwyd - rhaid cael gwared arno – galw sylw rhai o'r manwlsaethwyr ymysg eich reifflwyr ato!" Gorchmynnodd Morgan yn anfoddog i Fraser gael ei saethu’n farw, a Timothy Murphy a’I gwnaeth.

A Fraser wedi'i glwyfo'n farwol, ciliodd y troedfilwyr ysgafn Lloegr i mewn I a thrwy'r amddiffynfeydd allanol prif lu Burgoyne. Roedd Morgan yn un o’r rhai a ddilynodd arweiniad Arnold wedyn i droi yn ôl gwrthymosodiad o ganol milwyr Lloegr. Ciliodd Burgoyne i'w safleoedd cychwynnol, ar ôl colli tua phum cant (500) o ddynion. Y noson honno, tynnodd yn ôl i bentref Saratoga, Efrog Newydd (a ailenwyd yn Schuylerville er anrhydedd i Philip Schuyler) tuag wyth milltir i'r gogledd-orllewin.

Yn ystod yr wythnos nesaf, wrth i Burgoyne gloddio ffosydd, symudodd Morgan a'i ddynion i'r gogledd. O wybod am allu Morgan i ddifetha unrhyw batrolau a anfonwyd tuag atynt, argyhoeddwyd y Saeson nad oedd cilio'n bosibl.

New Jersey a’i ymddeoliad golygu

Ar ôl Saratoga, ailymunodd uned Morgan â phrif fyddin Washington, ger Philadelphia. Trwy gydol 1778 fe darodd yn erbyn colofnau a llinellau cyflenwi Prydain yn New Jersey, ond ni chymerodd ran yn unrhyw frwydr fawr. Ni fu ym Mrwydr Monmouth. Serch hynny, aeth ar drywydd lluoedd Lloegr a oedd yn cilio a chipio llawer o garcharorion a chyflenwadau. Pan ad-drefnwyd Llinell Virginia ar Fedi 14, 1778, daeth Morgan yn gyrnol ar Seithfed Gatrawd Virginia.

Trwy gydol y cyfnod hwn, daeth Morgan yn fwyfwy anfodlon ar y fyddin a'r Gyngres. Nid oedd erioed wedi bod yn weithgar yn wleidyddol nac wedi meithrin yr un berthynas â'r Gyngres. O ganlyniad, anwybyddwyd ef sawl gwaith wrth ddyrchafu cyrnoliaid eraill yn 'n frigadwyr. Ffafrwyd milwyr â llai o brofiad ymladd ond â gwell cysylltiadau gwleidyddol. Tra’n dal yn gyrnol gyda Washington, roedd wedi arwain brigâd Weedon dros dro, ac wedi ei deimlo ei hun yn barod ar gyfer y swydd. Heblaw am y rhwystredigaeth hon, rhoes ei goesau a'i gefn loes iddo o'r gamdriniaeth ar ei gorff yn ystod Alldaith Quebec. O'r diwedd caniatawyd iddo ymddiswyddo ar Fehefin 30, 1779, a dychwelodd adref i Winchester.

Ym mis Mehefin 1780, anogwyd ef i ailymuno â'r gwasanaeth gan General Gates, ond gwrthod a wnaeth. Roedd Gates yn cymryd yr awenau yn Adran y De, a theimlai Morgan y byddai gwasanaethu ymysg cynifer o swyddogion milisia uwch eu rheng yn cyfyngu ar ei ddefnyddioldeb. Ar ôl I Gates gael ei orchfygu gan y Saeson ym Mrwydr Camden, rhoes Morgan yr holl bethau a oedd ar law ganddo ac aeth i ymuno â Rheolaeth y De (Southern Command) yn Hillsborough, Gogledd Carolina.

Ymgyrch y De golygu

"Is-gyrnol Banastre Tarleton" gan Syr Joshua Reynolds Cyfarfu â Gates yn Hillsborough, a chafodd arweiniaeth y corfflu troedfilwyr ysgafn ar Hydref 2. O'r diwedd, ar Hydref 13, 1780, derbyniodd Morgan ei ddyrchafiad yn frigadydd.

Cyfarfu Morgan â'i Gadlywydd Adran newydd, Nathanael Greene, ar Ragfyr 3, 1780 yn Charlotte, Gogledd Carolina. Ni newidiodd Greene ei drosglwyddiad I Reolaeth y De, ond rhoes iddo orchmynion newydd. Roedd Greene wedi penderfynu rhannu ei fyddin ac erlid y gelyn er mwyn ennill amser i ailwneud ei fyddin. Fe roddodd I lu Morgan o ryw chwe chant (600) o filwyr y gwaith o erlid y gelyn yng nghefn gwlad De Carolina, ond heb I’r erlid fynd yn frwydr. [14]

Pan ddaeth y strategaeth hon yn amlwg, anfonwyd gan y Cadfridog o Sais Cornwallis Leng Brydeinig (British Legion) y Cyrnol Banastre Tarleton i'w olrhain. Llefarodd Morgan â llawer o'r milisia a oedd wedi ymladd yn erbyn Tarleton o'r blaen, a phenderfynodd anwybyddu’r i'w orchmynion, a gwrthdaro yn uniongyrchol yn erbyn y Saeson.

Brwydr Cowpens golygu

Pleidleisiodd Medal dros Morgan gan y Gyngres

Dewisodd Morgan wneud ei safiad yn Cowpens, De Carolina. Ar fore Ionawr 17, 1781, cwrddasant â Tarleton ym Mrwydr Cowpens. Roedd lluoedd milisia o dan Andrew Pickens a wedi ymuno â Morgan William Washington wedi ymuno â Morgan. Ychwanegwyd troedfilwyr ysgafn o sawl catrawd filwyr parhaol.

Manteisiodd cynllun Morgan ar duedd Tarleton i weithredu’n gyflym a’i ddirmyg tuag at y milisia, [15] yn ogystal ag cyrhaeddiad hirach a sicrwydd anelu ei reifflwyr Virginia. Roedd y saethwyr wedi'u lleoli yn y tu blaen, ac yna'r milisia, gyda'r milwyr parhaol ar ben y bryn. Roedd y ddwy uned gyntaf i fod cilio cyn gynted ag y cawsant eu bygwth o ddifrif, ond ar ôl achosi difrod. Byddai hyn yn denu cyrch cyn pryd gan y Saeson.

Arweiniodd y dacteg at amgylchyniad dwbl. Agosaodd lluoedd Lloegr at yr Americanwyr, oedd gyda’u cefnau tuag at y Saeson. Wrth iddynt agosáu, ail-lenwodd yr Americanwyr eu mwsgedau. Pan daeth y Saeson yn agos, troi a wnaeth yr Americanwyr a’u saethu o fewn dim yn eu hwynebau. Mewn llai nag awr, o’r mil trigain a chwech (1,076) o ddynion Tarleton, lladdwyd cant a deg (110) ohonynt, ac yr oedd wyth gant deg ar ugain (830) wedi’u cipio. Ymhlith y rhai a daliwyd bu deucant (200) ohonynt oedd wedi'u clwyfo. Er i Tarleton ddianc, cipiodd yr Americanwyr ei holl gyflenwadau ac offer, gan gynnwys caethweision y swyddogion. Ystyrir cynllun cyfrwys Morgan gan lawer yn gampwaith tactegol y rhyfel ac yn un o'r amgylchianiadau dwbl mwyaf llwyddiannus yn holl hanes milwrol modern. [16]

Roedd Cornwallis wedi colli nid yn unig lleng Tarleton, ond hefyd ei droedfilwyr ysgafn, a gyfyngodd hyn ar gyflymder ei ymateb am weddill yr ymgyrch. Am yr orchest hon rhoddodd talaith Virginia I Morgan dir ac ystâd a adawyd gan Dori. Roedd lleithder ac oerfel yr ymgyrch wedi gwaethygu ei sciatica nes ei fod mewn poen cyson; ar Chwefror 10, dychwelodd i'w fferm yn Virginia. [15] Ym mis Gorffennaf 1781, ymunodd Morgan â Lafayette am ysbaid i fynd ar drywydd Banastre Tarleton unwaith eto, yn Virginia y tro hwn, ond yn aflwyddiannus. [17]

Ar ôl y Chwyldro golygu

Ar ôl ymddiswyddo o'i gomisiwn yn ddeugain a chwech (46) oed, dychwelodd Morgan adref i Charles Town, ar ôl gwasanaethu am chwe blynedd a hanner (6½ blynedd). Trodd ei sylw at fuddsoddi mewn tir, yn hytrach na'i glirio, ac yn y pen draw, crynhowyd at ei gilydd ganddo ystâd o fwy na deucan a hanner can mil (250,000) o erwau (mil o cilomderau sgwâr) (1,000 km2). Wrth ymgartrefu ar ei ystâd ym mil saith gant pedwar ugain a dau (1782), ymunodd â'r Eglwys Bresbyteraidd a, gan ddefnyddio carcharorion rhyfel Hessaidd, adeiladodd dŷ newydd ger Winchester, Virginia. Rhoddwyd yr enw Saratoga ganddo ar y cartref ar ôl enw’r frwydr lle y trechodd y Saeson. Dyfarnodd y Gyngres fedal aur iddo ym 1790 i wneud coffhâd am ei fuddugoliaeth yn Cowpens. [18]

Yn 1794 cafodd ei alw yn ôl am ysbaid i wasanaethu ei wlad i gynorthwyo rhoi pen ar y Gwrthryfel Wisgi, ac ar yr adeg honno (mil saith gant pedwar ugain a phedwar ar ddeg, 1794) y dyrchafwyd Morgan yn Uwchfrigadydd. Gan wasanaethu o dan y Cadfridog Henry Lee Harri (Harri’r Marchoglu Ysgafn, "Light-Horse Harry"), arweiniodd Morgan un asgell o'r fyddin milisia i Orllewin Pennsylvania. [19] O ddangos grym mawr yn y modd hwn, daeth y protestiadau I ben heb danio’r un ergyd. Ar ôl i'r gwrthryfel gael ei ddarostwng, arweiniodd Morgan weddillion y fyddin a arhosodd tan fil saith gant pedwar ugain a phymtheg (1795) yn Pennsylvania, rhyw fil deucant (1,200) o wy^r milisia, a Meriwether Lewis yn un ohonynt. [20]

Ymgynigiodd Morgan fel ymeisydd i Dŷ’r Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau ddwywaith fel Ffederalwr. Collodd ym mil saith gant pedwar ugain a phedwar ar ddeg (1794), ond enillodd etholiad mil saith gant pedwar ugain ac un ar bymtheg (1796) 1796 gyda trigain a deg y cant (70%) o'r bleidlais, gan drechu'r Gweriniaethwr Democrataidd Robert Rutherford. Gwasanaethodd Morgan am dymor yn unig, rhwng mil saith gant pedwar ugain a dau ar bymtheg (1797) a mil saith gant pedwar ugain a phedwar ar bymtheg (1799). Bu farw ym mil wyth gant a dau (1802) yng nghartref ei ferch yn Winchester ar ei ben-blwydd yn 66 oed. Claddwyd Daniel Morgan ym mynwent Eglwys Bresbyteraidd Old Stone (= hen garreg). Symudwyd y corff I Fynwent Mynydd Hebron (Mt. Hebron Cemetery) yn Winchester, Virginia, ar ôl Rhyfel Cartref America. Bu farw ei wraig, Abigail, ym 1816 a chladdwyd hi yn Sir Logan, Kentucky.

Etifeddiaeth golygu

Roedd hen hen hen dad-cu Daniel Morgan hefyd yn ewythr i'r preifatwr a'r môr-leidr Cymreig Henry Morgan. [21] Honnodd y Cadfridog Cydffederal John Hunt Morgan heefyd ei fod yn un o'i ddisgynyddion. [22] [23]

Yn 1821 enwodd Virginia sir newydd - Sir Morgan - er anrhydedd iddo. (Mae bellach yn rhan o Orllewin Virginia.) Gwnaethpwyd yr un modd gan daleithiau Alabama, Georgia, Illinois, Indiana, Kentucky, Missouri, Ohio, a Tennessee. Mae dinas Morganton yng Ngogledd Carolina hefyd wedi’i henwi ar ôl Morgan, yn ogystal â dinas Morganfield yn Kentucky (Morgan’s Field yn wreiddiol) a sefydlwyd ym 1811 ar dir a oedd yn rhan o grant tir y Rhyfel Chwyldroadol i Daniel Morgan. Ni welodd Morgan y tir erioed, ond daeth Presley O'Bannon, cefnder-yng-nghyfraith i’w ferch, [24] [25] yn berchennog ar y tir. "Arwr Derna" yn Rhyfel y Barbari oedd O'Bannon. Lluniodd gynllun ar gyfer y dref a rhoddodd y tir ar gyfer y strydoedd a'r sgwâr gyhoeddus.

Ym 1881 (ar achlysur canmlwyddiant Brwydr Cowpens), gosodwyd cerflun o Morgan yn sgwâr ganolog tref Spartanburg, De Carolina. Mae wedi ei leoli yn Sgwâr Morgan ac yn dal yn y fan honno hyd heddiw.

Ddiwedd 1951, gwnaed ymdrech i ailgladdu corff Morgan yn Cowpens, SC, ond rwystrwyd y cynllun gan Gymdeithas Hanesyddol Frederick-Winchester symudiad trwy sicrhau gwaharddeb yn y llys cylched. Yn y llun gwelwyd y digwyddiad gan lun wedi ei ragdrefnu a ymddangosodd yn y cylchgrawn Life. [26]

Yn 1973, cyhoeddwyd bod plas Saratoga yn Ddirnod Hanesyddol Cenedlaethol.

Bu Morgan a'i gampiau fel un o'r prif ffynonellau ar gyfer cymeriad ffuglennol Benjamin Martin yn The Patriot, ffilm a gyhoeddwyd yn y flwyddyn dwy fil (2000).

Mae stryd wedi'i henwi ar ei ôl yn Lebanon Township, Swydd Hunterdon, New Jersey.

Codwyd cerflun o Morgan yn llyfrgell McConnelsville, yn Swydd Morgan, Ohio yn 2017. [27]

Yn Winchester, Virginia, mae ysgol ganol yn dwyn ei enw er anrhydedd iddo. [28]

Ceir ei enw ar y Daniel Morgan Graduate School of National Security (Ysgol Ymchwil Diogelwch Cenedlaethol Daniel Morgan) yn Washington, D.C. mewn cydnabyddiaeth o‘i ddefnydd gwych o strategaeth a chudd-ymchwil yn ystod y Chwyldro Americanaidd. Sefydlwyd yr ysgol yn 2014 i addysgu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr dros ddiogelwch cenedlaethol. [29]

Ychwanegwyd Tŷ Daniel Morgan yn Winchester at y Gofrestr Genedlaethol o Leoedd Hanesyddol yn 2013. [30]

Yn gynnar yn y 1780au, ymunodd Morgan â’r Col. Nathaniel Burwell i adeiladu melin rym dwr yn Millwood, Virginia. Mae Melin Burwell-Morgan ar agor fel amgueddfa ac un o'r melinau mâl gweithredol hynaf a mwyaf gwreiddiol UDA.

Mae cerflun o Morgan ar wyneb gorllewinol Heneb Saratoga yn Schuylerville (Efrog Newydd). [31]

Cyfeiriadau golygu