Agor y brif ddewislen
Gweler hefyd Philadelphia (gwahaniaethu).

Dinas Philadelphia yw dinas fwyaf Pennsylvania a'r chweched mwyaf o ran poblogaeth yn Unol Daleithiau America. Mae'n gorwedd yn Swydd Philadelphia, ac yn gwasanaethu fel sedd llywodraeth y swydd honno. Ei enw ar lafar yw "Dinas Brawdgarwch" (Saesneg: "the City of Brotherly Love") (Groeg: Φιλαδέλφεια, philadelphia, "brawdgarwch," o'r gair philos "cariad" ac adelphos "brawd").

Philadelphia
Philly skyline.jpg
Map of USA PA.svg
Lleoliad o fewn Pennsylvania
Gwlad Unol Daleithiau America
Ardal [[../]]
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Awdurdod Dinas Philadelphia
Maer Michael Nutter
Pencadlys New York City Hall
Daearyddiaeth
Arwynebedd 349.6 km²
Uchder 39 troedfedd (12 medr) m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 1,447,395 (Cyfrifiad 2008)
Dwysedd Poblogaeth 4,140.1 /km2
Metro 5,838,471
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser EST (UTC-5)
Cod Post 215, 267
Gwefan http://www.phila.gov
Y ddinas o orsaf reilffordd 30 Stryd gyda'r nos
Philadelphia03LB.jpg

Yn 2005 roedd ganddi boblogaeth o 1.4 million. Mae Philadelphia yn un o ganolfannau masnach, addysg, a diwylliant pwysicaf yr Unol Daleithiau. Yn 2006 amcangyfrifwyd fod gan ardal ddinesig Philadelphia boblogaeth o 5.8 miliwn, y bumed fwyaf yn UDA.

Yn y 18g, roedd Philadelphia y ddinas fwyaf poblog yn y wlad[1]. Mae'n debyg iddi fod yr ail fwyaf poblog, ar ôl Llundain, yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Y pryd hynny roedd yn bwysicach na dinasoedd Boston a Dinas Efrog Newydd yn nhermau dylanwad gwleidyddol a chymdeithasol, gyda Benjamin Franklin yn chwarae rhan bwysig yn ei goruchafiaeth. Philadelphia oedd canolbwynt cymdeithasol a daearyddol yr 13 gwladfa Americanaidd gwreiddol. Yno yn anad unlle arall y ganwyd y Chwyldro Americanaidd a arweiniodd at greu'r Unol Daleithiau.

Cynnwys

HanesGolygu

Daeth y bobl gyntaf i gyrradd o Ewrop o Swede a'r Iseldiroedd]]yn ystod yr 17g. Cyrhaeddodd William Penn ar 24 Hydref 1682, ac arwyddodd gytundeb efo'r llwyth brodorol. Sefydlwyd addoldy i'r Crynwyr ym 1698. Crewyd y ddinas ar 2 Chwefror 1854 gan uno nifer o anneddiadau bychain.[2]

DiwylliantGolygu

 
Cerflyniau ynghanol y ddinas

Mae gan Philadelphia nifer o safleoedd hanesyddol sy'n ymwneud â sefydlu'r Unol Daleithiau. Parc Hanesyddol Annibynniaeth Cenedlaethol sy'n ganolbwynt i'r mannau hanesyddol hyn. Y Neuadd Annibyniaeth (yn Saesneg "Independence Hall"), lle arwyddwyd y Datganiad o Annibynniaeth a'r Gloch Rhyddid (yn Saesneg "Liberty Bell") yw atyniadau enwocaf y ddinas. Mae safleoedd hanesyddol eraill yn cynnwys cartrefi Edgar Allan Poe, Betsy Ross, a Thaddeus Kosciuszko, adeiladau'r llywodraeth gwreiddiol, megis Y Banc Cyntaf ac Ail Fanc yr Unol Daleithiau, Ffort Mifflin, a'r Gloria Dei (Old Swedes') Safle Hanesyddol yr Eglwys Genedlaethol.

 
Yr amgueddfa Arforol

Mae prif amgueddfeydd gwyddonol Philadelphia'n cynnwys y Franklin Institute, sy'n cynnwys Cofeb Cenedlaethol Benjamin Franklin, yr Academi o Wyddorau Naturiol ac Amgueddfa Archeoleg ac Athropoleg Prifysgol Pennsylvania. Ymysg yr amgueddfeydd hanesyddol, ceir y Ganolfan Cyfansoddiad Cenedlaethol, Amgueddfa Atwater Kent o Hanes Philadelphia, Cymdeithas Hanesyddol Philadelphia, yr Amgueddfa Cenedlaethol am Hanes Iddewig, Amgueddfa Arforol, Amgueddfa Americaniaid Affricanaidd yn Philadelphia, Y Gyfrinfa Fawr Seiri Rhyddion a Dethol Talaith Pennsylvania ac Amgueddfa'r Seiri Rhyddion. Yn Philadelphia y ceir sŵ ac ysbyty cyntaf yr Unol Daleithiau.

EnwogionGolygu

CludiantGolygu

 
Gorsaf reilffordd Maestrefol
 
Arwydd elegtronig, gorsaf reilffordd 30fed Stryd

Gwasanaethir y ddinas a maestrefi gan SEPTA, ( Southeastern Pennsylvania Transportation Authority) sydd yn cynnig bysiau, trenau a thramiau ledled yr ardal ac yn estyn heibio ffiniau Pennsylvania i Jersey Newydd a Delaware.[3] Mae [[Gorsaf reilffordd 30fed Stryd, Philadelphia| Gorsaf reilffordd 30fed Stryd yn un brysur ar [[Coridor y Gogledd Dwyrain Amtrack, defnyddir gan drenau Amtrak, SEPTA, a New Jersey Transit.[4][5][6]

Mae gan y ddinas faes awyr rhyngwladol. Côd y maes awyr yw PHL.[7]

CyfeiriadauGolygu

Gweler hefydGolygu