Dansk Sprognævn
Y Dansk Sprognævn ydyw'r corff swyddogol sydd yn rheoli yr iaith Ddaneg fel rhan o'r Weinyddiaeth Ddiwylliant Ddanaidd, ac mae wedi ei leoli ym Mhrifysgol Copenhagen. Sefydlwyd y corff yn 1955. Mae gan y corff dair prif amcan:
- I ddilyn datblygiad yr iaith
- I ateb ymholiadau am yr iaith Ddaneg ac ei defnyddiau
- I ddiweddaru y geiriadur daneg swyddool, y Retskrivningsordbogen
Mae aelodau y pwyllgor gweithiol yn dilyn y cyfryngau, yn darllen llyfrau ac yn cofnodi defnydd o eiriau newydd. Mae geiriau newydd sydd wedi ymddangos digon aml mewn print ac ar lafar yn cael eu hystyried yn ddigion nodedig i gael eu hychwanegu i'r Retskrivningsordbogen, llyfr y mae hi yn ofynol trwy gyfraith i bob ysgol a sefydliad lywodraethol ei ddilyn. Mae'r pwyllgor yn derbyn tua 14,000 o ymholiadau y flwyddyn ynglân ag iaith Ddaneg, eu hanner gan gwmnïau preifat ond hefyd gan ddinasyddion cyffredin.
Mae'r Dansk Sprognævn yn cydweithio yn ddyddiol gyda byrddau iaith cyfwerth y Gwledydd Llychlyn eraill, Cynghorau Iaith Norwy a Sweden, i sicrhau nad yw'r Ieithoedd Llychlyn Cyfandirol, sydd fwy neu lai yn gyd ddealladwy, yn ymwahanu fwy na sydd angen.