Darllenfa
Desg ddarllen â'i harwyneb ar oleddf sydd fel arfer wedi ei gosod ar ryw fath o stondyn yw darllenfa. Dodir llyfrau neu ddogfennau ar ei phen er mwyn hwyluso darllen ar goedd, fel darllen ysgrythurau mewn gwasanaeth crefyddol, neu wrth draddodi darlith. Yn gyffredinol, defnyddir darllenfa wrth sefyll.