Crefydd
Cyfundrefn o ffydd ac addoliad neu gred yw crefydd. Bodolasai crefyddau cyn hired â'r hil ddynol; nid oes yna adeg a ŵyr amdani yn hanes y ddaear a chrefydd ddim mewn bodolaeth yn ei hystod. Credir fod pump chweched ran o boblogaeth y ddaear yn ystyried eu hunain yn grefyddol.
HanesGolygu
Datblygiad crefyddGolygu
Chwe phrif grefydd y bydGolygu
Crefyddau AbrahamigGolygu
Dyma'r grŵp mwyaf o grefyddau gyda 3.8 biliwn o ddilynwyr yn fyd-eang.
CristnogaethGolygu
Mae Cristnogaeth neu Gristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth Iesu Grist. Gosodir allan prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Testament Newydd, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Roeg yn wreiddiol ac sy'n rhan, gyda'r Hen Destament Iddewig (ac weithiau'r Apocryffa), o'r Beibl. Mae'r enw 'Crist' yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos), sy'n golygu "yr Eneiniog".
IddewiaethGolygu
Crefydd undduwiaeth yw Iddewiaeth, â thua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang.
IslamGolygu
Un o grefyddau mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw Islam. Ystyr y gair 'Islam' yw "ymostyngiad i ewyllys Duw" (Allah) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grëwyd ganddo. Mae'r gair yn gyfuniad o ddau air, sef salām sy'n golygu "tangnefedd" a'r gair slm sy'n golygu "ymostyngiad." Mae dilynwr Islam yn Fwslim, sef "un sy'n ymostwng i ewyllys Duw."
PaganiaethGolygu
Crefydd lle addolir Duw(iau) a/neu Dduwies(au) yw Paganiaeth, sydd hefyd yn ffurf o amldduwiaeth. Mae'n grefydd sydd yn credu mewn natur a phweroedd naturiol. Un o lwybrau modern o Baganiaeth yw Wica.
Crefyddau dwyreiniolGolygu
SiciaethGolygu
Crefydd un Duw yw Siciaeth neu Sikhiaeth sydd yn seiliedig ar athrawiaeth y deg Guru a drigai yng ngogledd India yn yr 16g a'r 17g. Mae'n un o brif grefyddai'r byd gyda dros 23 miliwn o ddilynwyr.
BwdhaethGolygu
Crefydd ddi-dduw yn ei hanfod yw Bwdhaeth neu "Bwdïaeth." Gellir ei ystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf o seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, ac annwyd yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), gyda'r enw Siddhattha Gotama oddeutu'r 5g CC. Lledaenodd Bwdhaeth trwy is-gyfandir India yn y 5g nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny. Er ei fod yn grefydd neu athroniaeth ddi-dduw, ceir nifer o "dduwiau" a bodau goruwchnaturiol eraill ym Mwdhaeth Mahayana ("Y Cerbyd Mawr"), e.e. ym Mwdhaeth Tibet.
HindŵaethGolygu
Hindŵaeth yw crefydd gynhenid is-gyfandir India a phrif grefydd India ei hun heddiw.