Mewn mathemateg, set o werthoedd a newidiynnau ansoddol neu feintiol yw Data. Yn syml, gellir diffinio tameidiau o ddata fel darnau o wybodaeth. Yn aml, mae'r data'n dilyn yr un dref: cesglir y data, ymchwilir i mewn i'r data (neu ei ddadansoddi) ac yna'n aml deuir i gasgliad drwy destun neu graffiau, siartiau a delweddau. Cesglir data mewn cronfa ddata a all fod ar ffurf taenlen. Ceir fersiwn Gymraeg o LibreOffice ar gyfer casglu ac archwilio data.

Taenlen LibreOffice, meddalwedd agored, Cymraeg yn dangos data o adar y byd. Dosbarthwyd y data, a grëwyd gan Gymdeithas Edward Llwyd i golofnau.

Yn aml, rhoddir gwybodaeth mewn ffurf rhifol, gan ei bod yn llawer haws trin rhifau na delweddau neu syniadau. Casgliad o rifau, rhifolion neu nodau heb eu prosesu ydy 'data crai'. Gall data wedi ei drin mewn un o'r gwaith fod yn ddata crai ar ddechrau'r cam nesaf. Data crai yw canlyniadau gwaith maes a gesglir mewn amgylchedd na ellir ei reoli. Data crai hefyd yw'r data a gesglir mewn arbrofion gwyddonol drwy arsyllu a chofnodi.[1][2]

Daw'r gair "data", sef lluosog y gair "datum" o'r Lladin ond erbyn heddiw gall fod yn unigol neu'n lluosog; yn amlach na pheidio mae'n enw unigol torfol (yn debyg i'r gair "gwybodaeth").[3][4][5]

Un o arloeswr y dull o drosglwyddo data bob yn swp neu bacedi (packet switching) oedd Donald Watts Davies a gafodd ei eni yn Nhreorci yng Nghwm Rhondda, Rhondda Cynon Taf, De Cymru. Yn 1965 cyhoeddodd ei waith pwysicaf: datblygodd system a oedd yn galluogi i gyfrifiaduron ddanfon pecynnau o wybodaeth i'w gilydd drwy rwydwaith.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Joint Publication 2-0, Joint Intelligence" (PDF). Defense Technical Information Center (DTIC). Department of Defense. 22 Mehefin 2007. tt. GL-11. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-06-13. Cyrchwyd 22 Chwefror 2013.
  2. Needham, R. M. (2002). "Donald Watts Davies, C.B.E. 7 Mehefin 1924 - 28 Mai 2000". Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society 48: 87–10. doi:10.1098/rsbm.2002.0006.
  3. Hickey, Walt (2014-06-17). "Elitist, Superfluous, Or Popular? We Polled Americans on the Oxford Comma". FiveThirtyEight. Cyrchwyd 2015-05-04.
  4. Emily Gorton (26 Gorffennaf 2013). "Blue plaque to honour Welsh computing pioneer Donald Davies". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-06. Cyrchwyd 26 Ionawr 2016. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  5. Harris, Trevor, Who is the Father of the Internet? The case for Donald Watts Davies, http://academia.edu/378261/Who_is_the_Father_of_the_Internet_The_Case_for_Donald_Davies, adalwyd 10 Gorffennaf 2013