Data cysylltiedig
Ym maes cyfrifiadureg, mae data cysylltiedig (Saesneg: linked data, yn aml yn cael ei ysgrifennu â phrif lythrennau) yn ddull o gyhoeddi data strwythuredig fel y gellir ei gysylltu a'i wneud yn fwy defnyddiol trwy ymholiadau semantaidd.[1] Mae'n adeiladu ar safonau technolegau'r We fel HTTP, RDF a URIs, ond yn hytrach na'u defnyddio i weini tudalennau gwe i ddarllenwyr dynol yn unig, mae'n eu hymestyn i rannu gwybodaeth mewn ffordd y gellir ei ddarllen yn awtomatig gan gyfrifiaduron. Rhan o weledigaeth data cysylltiedig yw bod y rhyngrwyd yn dod yn gronfa ddata byd-eang.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, arbenigedd, maes astudiaeth |
---|---|
Math | structured data, cronfa ddata ar-lein |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tim Berners-Lee, cyfarwyddwr Consortiwm y We Fyd-eang (W3C), wnaeth fathu'r term yn 2006, a hynny mewn nodyn dylunio am brosiect y We Semantaidd.[2]
Gall data cysylltiedig hefyd fod yn ddata agored, fel arfer yn cael ei ddisgrifio fel data agored cysylltiedig (Saesneg: linked open data).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bizer, Christian; Heath, Tom; Berners-Lee, Tim (2009). "Linked Data – The Story So Far" (PDF). International Journal on Semantic Web and Information Systems. 5 (3). doi:10.4018/jswis.2009081901.
- ↑ Tim Berners-Lee (2006-07-27). "Linked Data". Design Issues. W3C. Cyrchwyd 2010-12-18.