Datblygu economaidd
(Ailgyfeiriad o Datblygiad economaidd)
Term sy'n crybwyll sawl polisi sy'n ceisio gwella lles economaidd a chymdeithasol y boblogaeth yw datblygu economaidd. Weithiau fe'i ddefnyddir yn gyfystyr â moderneiddio a diwydiannu, ac yn enwedig gorllewineiddio a rhyddfrydoli economaidd gan yr ysgol neo-ryddfrydol. Mae gan ddatblygu economaidd berthynas uniongyrchol â'r amgylchedd, ac felly mae cynaliadwyedd yn nod bwysig.