Gwyddor codi cyllid a'i wario yw arianneg.[1] Mae unigolion, cwmnïau, a llywodraethau yn benthyg neu'n gwerthu ecwiti os nad oes digon o gyllid ganddynt i dalu am wariannau, i dalu dyledion, neu ar gyfer gweithrediadau ariannol eraill. Mae cynilwyr a buddsoddwyr yn cronni cyllid i ennill llog neu ddifidendau. Yn ganolog i faes arianneg mae'r broses o symud cyllid ar ffurf credyd, benthyciadau, neu gyfalaf buddsodd i endidau economaidd sydd angen cyllid neu fydd yn gwneud defnydd da ohono. Gelwir sefydliadau sy'n symud cyllid o gynilwyr i ddefnyddwyr yn ganolwyr ariannol, ac maent yn cynnwys banciau masnachol, banciau cynilo, cymdeithasau cynilo a benthyg, undebau credyd, cwmnïau yswiriant, cronfeydd pensiwn, cwmnïau buddsoddi, a chwmnïau ariannol.[2]

Arianneg
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd, pwnc gradd, function, arbenigedd, maes astudiaeth Edit this on Wikidata
Mathbusiness management, banking, finance and investment studies Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

  1.  arianneg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.
  2. (Saesneg) finance. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.