David Brooks

Chwaraewr pêl-droed Cymru

Mae David Robert Brooks (ganwyd 8 Gorffennaf 1997) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru sy'n chwarae hefyd i glwb AFC Bournemouth. Ganwyd Brooks yn Warrington a gallai fod wedi chwarae dros ei wlad enedigol Lloegr neu dros Gymru, gan fod ei fam yn dod o Langollen. Yn wir, chwaraeodd i dimau ieuenctid cenedlaethol Lloegr (dan-20) a Chymru (dan-21) yn 2017 cyn chwarae ei gêm gyntaf dros dim dynion Cymru pan ddaeth ar y cae fel eilydd yn y gêm yn erbyn Ffrainc ar 10 Tachwedd 2017.[1]

David Brooks
GanwydDavid Robert Brooks Edit this on Wikidata
8 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
Warrington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Birchwood Community High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra173 centimetr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auA.F.C. Bournemouth, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed Edit this on Wikidata
Saflecanolwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonLloegr, Cymru Edit this on Wikidata

Cafodd Brooks ei arwyddo gan Bournemouth yng Ngorffennaf 2018 ar gytundeb pedair blynedd a ffi o £11.5 miliwn yn dilyn ei berfformiadau disglair dros Sheffield United yn nhymor 2017-18.[2] Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Bournemouth yn y fuddugoliaeth gartref o 2-0 yn erbyn Dinas Caerdydd [3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "France 2–0 Wales". BBC Sport. 10 November 2017. Cyrchwyd 11 November 2017.
  2. "David Brooks and James Maddison prove persistence does finally pay off". The Guardian. 22 August 2018. Cyrchwyd 20 September 2018.
  3. "AFC Bournemouth v Cardiff City Match Report".