C.P.D. Dinas Caerdydd
Mae Clwb pêl-droed Dinas Caerdydd (Saesneg: Cardiff City Association Football Club) yn un o'r chwech Clwb o Gymru sy'n chwarae yn y system pêl-droed Lloegr. Dyrchafwyd y clwb i'r Uwchgynghrair yn nhymor 2018-2019, hefo Neil Warnock fel rheolwr ond ni lwyddodd y tîm aros yn y gynghrair.
![]() | ||||
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd | |||
---|---|---|---|---|
Llysenw(au) | Yr Adar Gleision | |||
Sefydlwyd | 1899 (fel Riverside A.F.C.) | |||
Maes | Stadiwm Dinas Caerdydd | |||
Perchennog |
![]() | |||
Cadeirydd |
![]() | |||
Rheolwr | Neil Harris | |||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Lloegr | |||
2017-2018 | 2il (Pencampwriaeth Lloegr) | |||
Gwefan | Gwefan y clwb | |||
|
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
HanesGolygu
Cafodd Dinas Caerdydd ei ffurfio ym 1899 fel ffordd o gadw chwaraewyr o Glwb Criced Riverside gyda'i gilydd ac yn cadw'n heini yn ystod misoedd y gaeaf. Yn eu tymor cyntaf roeddent yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn timau lleol ar eu maes yng Ngerddi Sophia, ond ym 1900 dyma nhw'n ymuno â Chynghrair Caerdydd a'r Cylch ar gyfer eu tymor cystadleuol cyntaf. Ym 1905 rhoddwyd statws dinas i Gaerdydd gan y Brenin Edward VII, ac o ganlyniad, gwnaeth y clwb gais i newid eu henw i Ddinas Caerdydd, ond cafodd y cais ei wrthod gan y teimlwyd nad oeddent yn chwarae ar lefel ddigon uchel. Er mwyn dod dros hyn, trefnodd y clwb i ymuno â Chynghrair Amatur De Cymru ym 1907 ac yn y flwyddyn ganlynol cawsant ganiatâd i newid enw'r clwb i Ddinas Caerdydd.
Ailfrandio a dyrchafiad i Uwchgynghrair LloegrGolygu
Ar 17 Mehefin 2011, penodwyd Malky Mackay fel rheolwr Caerdydd. Yn ystod ei dymor cyntaf, cymerodd Mackay y clwb i rownd derfynol Cwpan Cynghrair Lloegr am y tro cyntaf yn eu hanes.
Yn 2012, cafodd Dinas Caerdydd ei ailfrandio gan berchnogion y clwb o Maleisia. Newidiwyd lliwiau'r crysau cartref o las i goch a bathodyn y clwb, tra cadwyd eu llysenw, "yr Adar Gleision". Roedd yr ailfrandio yn amhoblogiadd ymysg cefnogwyr y clwb, ond honnodd y prif weithredwr ar y pryd y byddai ail-frandio yn ehangu apêl y clwb.[1] Aethant ymlaen i gael eu dechrau gorau erioed i dymor yn 2012/13, tra hefyd yn torri record y clwb wrth ennill naw gêm gartref o'r fron. Gorffenwyd y tymor gyda dyrchafiad i'r Uwchgynghrair wedi i'r clwb orffen y tymor fel pencampwyr y Bencampwriaeth.
Carfan BresennolGolygu
Nodyn: Diffinir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
C.P.D. Merched Dinas CaerdyddGolygu
Cynrycholir y clwb hefyd gan dîm pêl-droed merched sef C.P.D. Merched Dinas Caerdydd. Yn wahanol i glwb y dynion, mae'r merched yn cystadlu yn system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru gan chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru lle maent wedi bod yn llwyddiannus iawn ac ennill sawl gwaith.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Adar Gleision: gorymdaith i gofio hanes y clwb Gwefan BBC Cymru 25 Awst 2013