Chwaraewr pêl-droed Cymreig ydy David Edwards (ganwyd David Alexander Edwards 3 Chwefror 1986). Mae'n chwarae i Tref y Bala yn yr Uwch Gynghrair Cymru.

Dave Edwards

Edwards yn chwarae dros Gymru
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnDavid Alexander Edwards
Dyddiad geni (1986-02-03) 3 Chwefror 1986 (38 oed)
Man geniPontesbury, Lloegr[1]
Taldra5 tr 11 modf (1.80 m)[1]
SafleCanol Cae
Y Clwb
Clwb presennolTref y Bala
Rhif19
Gyrfa Ieuenctid
1996–2003Shrewsbury Town
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2003–2007Shrewsbury Town120(12)
2007–2008Luton Town19(4)
2008–2017Wolverhampton Wanderers284(41)
2017–2019Reading32(3)
2019–2021Shrewsbury Town44(2)
2021–Tref y Bala0(0)
Tîm Cenedlaethol
2006–2008Cymru dan 219(1)
2007–2017Cymru43(3)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 18:39, 16 Gorffennaf 2021 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 13:03, 17 Chwefror 2021 (UTC)

Gyrfa clwb golygu

Dechreuodd Edwards ei yrfa fel prentis gyda'i glwb lleol, Shrewsbury Town[2] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd yng ngêm olaf tymor 2002–03 yn erbyn Scunthorpe United.

Treuliodd bedair tymor yn chwarae'n rheolaidd i'r clwb ond wedi iddo wrthod arwyddo cytundeb newydd yn 2007 cafodd ei adael allan o'r tîm chwaraeodd yn erbyn Bristol Rovers yn rownd derfynol gemau ail gyfle Adran 1[3][4]

Ar 26 Mehefin 2007, ymunodd Edwards â Luton Town[5] ond gyda'r clwb yn dioddef problemau ariannol, derbyniodd Luton gynnig o £675,000 amdano gan Wolverhampton Wanderers ym mis Ionawr 2008[6][7].

Ar 10 Mehefin 2021, symudodd Edwards i clwb Uwch Gynghrair Cymru, Tref y Bala.[8]

Gyrfa ryngwladol golygu

Mae Edwards yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd taid Cymreig ac roedd wedi chwarae dros dimau dan 17, dan 19 a dan 21 Cymru cyn iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm llawn yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn 2007[9].

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Hugman, Barry J., gol. (2008). The PFA Footballers' Who's Who 2008–09. Mainstream. ISBN 978-1-84596-324-8.
  2. "Dave's joy at Premier prospect". 2009-04-21. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-25. Cyrchwyd 2015-05-24. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Edwards forgives Peters for axe". BBC Sport. 2008-04-16.
  4. "Shrewsbury's finest 2000–10". Shropshire Star. 2010-01-06.[dolen marw]
  5. "Edwards Deal Agreed". www.lutontown.co.uk. Cyrchwyd 2007-08-27.[dolen marw]
  6. "Edwards escapes mad-Hatters party". South Wales Echo. 2008-01-13.
  7. "Wolves complete Edwards transfer". BBC Sport. 2008-01-14.
  8. "Dave Edwards Is A Lakesider!". 2021-06-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-04. Cyrchwyd 2021-07-16.
  9. "Koumas penalty saves a point for Wales". 2007-11-17. Unknown parameter |published= ignored (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.